Newyddion

Dyma Dafydd Allen, Artist Cyswllt WNO

18 Hydref 2022

Mae Dafydd Allen, y bariton o Gymru, yn un o ddau Artist Cyswllt newydd Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022/2023. Wedi graddio o'r Royal College of Music (RCM) yn Llundain, roedd Dafydd yn aelod o Opera Ieuenctid WNO, yn perfformio Kommilitonen! gan Peter Maxwell Davies yng Nghanolfan Celfyddydau Memo, y Barri, ym mis Gorffennaf 2016.

Cafodd Kommilitonen! ei gyfarwyddo gan unigolyn arall sydd wedi elwa o ymrwymiad parhaus WNO i dalent newydd; Cyfarwyddwr Cynorthwyol Genesis WNO, Polly Graham, a oedd wedi cydweithio â Dafydd pan fu'n perfformio rhan Speaker yn ystod cynhyrchiad Stiwdio Opera RCM o The Magic Flute.

Mae Dafydd wedi perfformio amrywiaeth o rolau eraill yn RCM, gan gynnwys Father yn Hansel and Gretel; Dancaïre yn Carmen a Demetrius yn A Midsummer Night’s Dream fel rhan o berfformiadau Golygfeydd Opera'r coleg; Masetto yn Don Giovanni ar gyfer OPRA Cymru a William Minnock yn y perfformiad cyntaf un o Madeleine gan David Hackridge Johnson gyda Surrey Opera.

Dechreuodd ei benodiad fel Artist Cyswllt WNO drwy berfformio dehongliadau o 2117 / Hedd Wyngyda'r soprano Ellen Williams yn nigwyddiad lansio CD yr opera Gymraeg newydd sbon, wedi'i chomisiynu gan WNO. Perfformiodd Dafydd fel rhan o'r corws yn y recordiad yn 2017. Lansiwyd y CD yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, ond nid hwn oedd ei ymweliad cynaf â'r Eisteddfod; mae Dafydd wedi bod yn gystadleuydd brwd (ac wedi ennill gwobrau) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd ar hyd y blynyddoedd.

Fel rhan o Dymor yr Hydref, bydd yn perfformio ar y prif lwyfan am y tro cyntaf, yn chwarae rhannau Stage Technician / Doctor yn ein cynhyrchiad newydd o The Makropulos Affair gan Janáček, yn ogystal â pharhau â'i waith cyswllt gydag Opera Ieuenctid WNO, yn chwarae rhan Boris yn Cherry Town, Moscow. Bydd Dafydd wedyn yn croesawu'r flwyddyn newydd mewn steil, yn canu yng nghyngerdd Return to Vienna Cerddorfa WNO, a fydd yn mynd ar daith ledled Cymru a de Lloegr rhwng 5 a 21 Ionawr 2023.

Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus o fod yn ymuno â'm cwmni cenedlaethol. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at allu parhau a'm datblygiad wrth gydweithio â rhai o berfformwyr gorau'r byd. Rwyf ar ben fy nigon

Dafydd Allen