Newyddion

Rhyddhau 2117 / Hedd Wyn, opera Gymraeg newydd sbon

5 Awst 2022

Mae Ellis Humphrey Evans wedi dod yn symbol o genhedlaeth a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bardd Cymraeg a adnabyddir yn well wrth ei enw barddol Hedd Wyn a enillodd y Gadair Farddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1917, ychydig wythnosau ar ôl ei farwolaeth yn ystod Brwydr Passchendaele. Comisiynodd Opera Cenedlaethol Cymru opera newydd sbon i nodi canmlwyddiant y bardd yn 2017 a ysbrydolwyd gan stori’r bardd a’r ffilm Gymraeg gyda’r actor Huw Garmon yn chwarae’r brif ran yn 1992. 

Syniad artistig y cyfansoddwr Stephen McNeff a Gruff Rhys (Super Furry Animals), a gafodd ei gomisiynu’n wreiddiol ar gyfer darllediad teledu a dosbarthiad sinematig yw’r gwaith tair act Cymraeg. Recordiwyd y sain, sy’n cynnwys Cerddorfa WNO, Opera Ieuenctid lwyddiannus WNO, Only Boys Aloud, a rhestr o unawdwyr yn 2017, gyda’r cyfansoddwr yn arwain a bu hyd yma’n segur ar gyfrifiadur. 

Bu gweithio â Chwmni y cefais fy magu gydag ac a wyliais ers i’m diddordeb cynharaf mewn opera ddechrau yn ganlyniad delfrydol, fel ag y bu cydweithio â chymaint o ystod o dalentau creadigol unigryw ac amrywiol a chantorion ifanc gorau Cymru.

Stephen McNeff, Cyfansoddwr

Ym mis Awst 2022, rhyddhawyd y CD ar Recordiau Tŷ Cerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron, Ceredigion. Roedd y lansiad yn cynnwys detholiadau o’r opera’n cael eu perfformio’n fyw gan y soprano Ellen Williams, y bariton Dafydd Allen a’r pianydd Rhiannon Pritchard ar lwyfan Encore. Roedd Dafydd, a ymunodd â’r Cwmni fel Artist Cyswllt WNO yn ddiweddar, yn rhan o’r recordiad fel aelod o’r corws a bu Rhiannon yn rhan o’r prosiect o’r dechrau fel répétiteur. 

 Mae’r opera yn addasiad o stori Hedd Wyn, sydd wedi’i gosod yn y dyfodol 200 mlynedd i’r diwrnod ers y bu farw’r bardd.Yn dilyn trychineb niwclear yng ngorsaf bŵer Trawsfynydd, yn y pentref lle’r roedd Hedd Wyn yn byw, mae cymunedau yn cael eu dadleoli ac mae dos cryf o ymbelydredd wedi pylu’r ffiniau rhwng y gorffennol, presennol a’r dyfodol ac mae’r iaith Gymraeg mewn perygl o ddiflannu. Mae’r ddrama gyfareddol yn meithrin dyfodol dystopaidd gyda mytholeg Gymraeg ac yn cynnwys pennill gan Hedd Wyn ei hun.

Roedd hi’n antur ac yn addysg cael gweithio â Stephen McNeff i greu’r libreto ar gyfer 2117 / Hedd Wyn. Roedd pawb oedd ynghlwm â’r darn wedi eu hysbrydoli i fynd un cam ymhellach i greu’r cofnod unigryw hwn. Mae’n wych ei fod yn gweld golau dydd o’r diwedd.

Gruff Rhys, Librettist

The CD, 2117 / Hedd Wyn is now available to purchase on Tŷ Cerdd’s website and stream on all major platforms.