Yn Nhymor yr Hydref, mae gennym ddwy berfformwraig yn rhannu rhan Violetta yn ein hadfywiad oLa traviata – un rhan arbennig, dwy gantores wych; un ar ddechrau ei stori WNO, a’r llall yn ffefryn yn barod.
Mae Linda Richardson wedi canu rhan Violetta yn ein cynhyrchiad o La traviata o’r blaen, pan wnaethom ei adfywio yn 2014. Nid dyma oedd ei pherfformiad cyntaf gyda WNO ychwaith, mae Linda yn soprano y gallwn ddibynnu arni i ddod â’i dealltwriaeth a’i llais i wahanol rannau o Cio-Cio-San yn Madam Butterfly, i Elvira yn I puritani, a’r rhan deitl yn Anna Bolena ac Amaltea yn Moses in Egypt.
Yn gyn-fyfyriwr yn y Royal Northern College of Music, roedd Linda yn brif Artist yn English National Opera lle'r oedd y rhannau niferus iddi eu perfformio yn cynnwys Violetta. Mae hi hefyd wedi perfformio’r rhan gydag Opera North a Scottish Opera yn ystod ei gyrfa.
Tra bod y soprano o Armenia, Anush Hovannisyan yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda ni – nid yw’r rhan yn ddieithr iddi, gan ei bod wedi ei pherfformio gyda’n cyd-gynhyrchwyr, Scottish Opera, gan dderbyn adolygiadau gwych am ei pherfformiad yr hydref diwethaf.
Yn un o Jette Parker Young Artist yn y Royal Opera House ar ôl iddi raddio o Royal Conservatoire of Scotland. Gallwch weld Anush yn canu gyda’n Cerddorfa, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus, yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017
The Sunday TimesAnush Hovhannisyan sweeps all before her with her bright, lyric soprano…this was a “star is born” moment for the young Armenian.
Felly, pa bynnag gast sydd yn perfformio ar eich noson chi, byddwch yn sicr o weld helyntion yr arwres Violetta Valéry yn cael eu perfformio gyda gonestrwydd torcalonnus – o’r ferch bechadurus, i angel, ac yn ôl i’r demtwraig, ac yna ei marwolaeth drasig, lle unwaith eto mae ei theyrngarwch a’i chariad yn argyhoeddi’r gynulleidfa o’i anhunanoldeb, ei hunanaberth i gariad ac felly yn ‘dderbyniol’. Bydd pob cantores yn cynnig ei dehongliad ei hun o’r cymeriad eiconig yma – gallwch weld Linda Richardson ar 21 a 28 o Fedi; 10, 17, 19 a 15 o Hydref; 7 a 14 o Dachwedd; neu Anush Hovanhannisyan ar 30 o Fedi; 4, 6, 12 a 27 o Hydref; 9, 16, 21 a 23 o Dachwedd.