Newyddion

Cwrdd â chyflwynwyr newydd Podlediad WNO

11 Mawrth 2021

Ar drothwy cyfres newydd o bodlediadau Opera Cenedlaethol Cymru, gwnaethom gwrdd â’r cyflwynwyr a gofyn am eu cyfres arbennig tair-rhan sy’n ymchwilio taith artist.

Ym mhennod Natalya Romaniw, mae’n edrych yn ôl ar ei hamser gydag Opera Ieuenctid WNO a sut fu i’r profiadau hynny ysgogi ei gyrfa fel soprano proffesiynol. 

Natalya, beth wnaeth eich ysbrydoli i gymryd rhan mewn The O Word?

‘Roeddwn i’n awyddus i ymchwilio sut all profiadau cerddorol ffurfiannol gael effaith ar gantorion ifanc, ac ymgorffori hyn drwy edrych yn ôl ar fy mhrofiadau fy hun gydag Opera Ieuenctid WNO. Roedd yr Opera Ieuenctid yn cynnig amgylchedd croesawgar i mi a pherfformwyr eraill; pob un ohonom yn awyddus i rannu’r broses hyfryd o greu cerddoriaeth. Yma, gwnes ffrindiau oes fel Rhian Lois, ac roeddem wrth ein bodd yn gallu hel atgofion yn fy mhennod. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i bobl wrando arni.’

Ym mhennod Tim Rhys-Evans, mae’n edrych i mewn i’r broses o hyfforddi perfformwyr ifanc, gan roi mewnwelediad i’w addysg artistig ei hun. 

Tim, pa mor werthfawr yn eich barn chi yw hyfforddiant artistig o ran creu perfformwyr proffesiynol?

‘Rwy’n credu bod hyfforddiant prifysgol a chonservatoire yn hanfodol er mwyn creu perfformwyr ifanc o safon, yn enwedig ar adeg pan mae gwerth y celfyddydau dan sylw. Roeddwn i’n ddig ar ddechrau’r pandemig o weld galwadau’r llywodraeth i artistiaid ‘ailhyfforddi’, ond roedd gweld ymateb ac anfodlonrwydd pobl am hyn yn galonogol, yn enwedig o glywed pobl yn trafod cymaint yr oeddent wedi’i fuddsoddi i hyfforddi ar gyfer eu proffesiwn. Ac ro’n i’n falch o glywed hyn yn cael ei ategu gan westeion fy mhennod - myfyrwyr a graddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - yn ein hatgoffa am werth cerddoriaeth o ran dod â llawenydd i’n bywydau.’

Yr arweinydd Tianyi Lu sy’n dod â’r gyfres tair-rhan arbennig hon i ben, gan fyfyrio ar ei phrofiadau 

ei hun er mwyn ystyried beth fydd myfyriwr yn ei wneud ar ôl graddio. 

Tianyi, beth wnaeth eich denu at y maes hwn o daith artist?

‘Roeddwn i’n awyddus i ddysgu mwy am deimladau ein gwesteion ynghylch y diwydiant ar yr adeg bwysig honno, sef graddio. Beth wnaeth eu gyrru i wneud hyn? Beth oedd eu hofnau, gobeithion a breuddwydion? Roedd yn fraint cael clywed gan berfformwyr fel Elin Pritchard, a hefyd rhai ar baneli clyweliadau megis Elaine Kidd o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House. O baratoi at glyweliadau i wneud argraff dda mewn perfformiadau cyntaf, adeiladu gwytnwch a phwysigrwydd edrych ar ôl lles meddyliol a chorfforol, rydym yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd

i ymarferwyr ifanc sy’n mynd i mewn i’r byd opera, a’n gobeithion a’n breuddwydion o ran opera mewn byd ar ôl y pandemig.’

Dramaturg WNO, Elin Jones, fydd yn cymryd yr awenau ac yn cyflwyno’r gyfres hon o’r podlediad Cymraeg, Cipolwg, gyda’r comediwr a newyddiadurwr Lorna Prichard yn cymryd rhan fel gohebydd symudol y gyfres. 

Elin, sut beth oedd cyflwyno’r gyfres arbennig tair-rhan Gymraeg hon?

‘Mae cyflwyno’r gyfres hon o Cipolwg wedi bod yn llawer o hwyl. Byddwn yn mynd â’n gwrandawyr ar daith o grwpiau ieuenctid i hyfforddiant conservatoire, heb sôn am yr heriau y bydd artistiaid ifanc yn eu hwynebu ar ôl graddio. Mae wedi bod yn wych gallu myfyrio a chlywed gan bobl oedd yn rhan o’m cyflwyniad i opera, yn ogystal â chan gantorion proffesiynol fel Huw Ynyr ac Elgan Llŷr Thomas. Yn bendant, mae gen i barch newydd at gantorion ifanc a’r bobl sy’n eu helpu a’u hannog ar hyd y ffordd.’