Newyddion

Migrations: Mwy am gefndir Flight, Death or Fog

1 Medi 2022

Mae comisiwn newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations, yn plethu chwe stori wahanol ynghyd, yn seiliedig ar y thema ymfudo, dros gyfnod o 400 mlynedd. Mae Flight, Death, or Fog wedi cael ei ysbrydoli gan fywyd Pero Jones, a oedd yn gaethwas o Nevis a ddaeth i weithio i dŷ teulu'r Pinney ym Mryste yn ystod y 18fed ganrif. Mae llawer o gofnodion ar gael am fywyd Pero, ac mae ei hanes, yn ogystal â'i gysylltiad â Bryste, wedi ysbrydoli'r libretwyr Edson Burton a Miles Chambers i ddefnyddio bywyd Pero fel rhan o'u cyfraniad i’r opera.

Mae'r stori'n dechrau mewn gwledd. Wrth i Pero weini teulu'r Pinney a'u gwesteion, y Holbrooks, cawn gipolwg ar ei gartref yn Nevis wrth iddo atgoffa ei hun o'i freuddwydion a'i ddyheadau a oedd ganddo ar gyfer ei fywyd. Yn hwyrach y noson honno, wedi oriau o gael ei iselhau a'i amddifadu, fe welwn Pero'n synfyfyrio, yn meddwl am ei gyndeidiau, a chawn ein cyflwyno i'w etifeddiaeth a'i anwyliaid - ei daid, ei dad a'i wraig, Bridget. Ac yntau mewn cyflwr breuddwydiol, fe welwn sut mae'r bobl ym mywyd Pero'n cynrychioli'r dewisiadau anodd sy'n ei rwygo'n ddau. 

Mae pob un o'r gwerthoedd hynny'n cael eu hadlewyrchu o fewn ein hysbryd heddiw, boed yn bobloedd ddu neu wyn. Ysbryd, yr ymdeimlad o gyfrifoldeb, o gariad ac angerdd, a dyna sy'n eich ysgogi. Neu'r ymdeimlad o falchder, megis, os nad yw pethau digon da, neu'n cyrraedd safon benodol, beth yw'r pwynt?

Miles Chambers, Libretydd

Cafodd Pero Jones statws ar yr aelwyd honno am iddo dderbyn y cyfrifoldeb o redeg y tŷ'n ddyddiol, a gwneud y cyfan dan feddiant John Pinney. Roedd Edson eisiau edrych yn fanylach ar ei ddynamig lletchwith o fewn y darn, yn enwedig y cysylltiad â chaethwasiaeth fodern ac ecsploetiaeth yn y byd sydd ohoni heddiw. O fewn y darn, cawn weld sut mae Pero'n gallu cefnogi ei deulu yn Nevis wrth weithio yng nghartref y teulu Pinney, a hawdd yw gweld sut mae stori Pero yn ategu straeon gweithwyr ymfudol yn y Deyrnas Unedig heddiw. Mewn adroddiad gan y BBC yn 2018, credir bod gweithwyr ymfudol yn y DU yn anfon £8 biliwn y flwyddyn i gefnogi teuluoedd yn eu gwledydd genedigol.


Wrth dynnu sylw at y ffordd mae Flight, Death or Fog yn cynrychioli'r fasnach gaethwasiaeth, dywedodd Edson, 'Un o'r pethau a'm hysbrydolodd yw bod llawer o fy ngwaith ysgrifennu yn ceisio tynnu sylw at y fasnach gaethwasiaeth drawsatlantig. I mi'n bersonol, mae'n amhosib troi cefn ar y fasnach gaethwasiaeth drawsatlantig wrth drafod Prydain fodern, a chyfandiroedd America. Yn fy marn i, mae'n brofiad cwbl trawsnewidiol, ac mae'n anodd cerdded oddi wrtho. Wrth gwrs, mae angen i ni ystyried y bobloedd dduon a hanes pobl dduon y tu hwnt i'r cysylltiad a ffurfiwyd gyda phobl Ewrop drwy gaethwasiaeth. Ar yr un pryd, mae perygl o geisio tynnu oddi wrth hynny, heb ddeall yn iawn pa mor sylweddol oedd hynny o ran siapio'r byd modern. Mae'n rhywbeth sy'n parhau i ddal gafael ar fy mywyd creadigol, hyd yn oed os yw'n ymwneud â phroblemau neu bryderon cyfoes.'

Ewch dan groen ein hopera newydd, a dysgu mwy am bob stori unigol o fewn Migrations drwy brynu rhaglen o'n siop ar-lein. Bydd yr opera hon yn mynd ar daith fel rhan o'n Tymor Hydref, gan ymddangos yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham a Southampton rhwng dydd Sul 2 Hydref a dydd Sadwrn 26 Tachwedd, felly cofiwch fynd i'w gwylio.