Oeddech chi'n gwybod bod mwy na 30 miliwn o bobl yn gallu olrhain eu cyndeidiau yn ôl i'r 102 o deithwyr ac oddeutu 30 o griw oedd ar fwrdd y Mayflower a deithiodd i America yn 1620? Mae opera newydd epig Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations yn tyrchu i stori'r Mayflower a'r daith flinderus a gafodd y teithwyr i chwilio am ryddid rhag erledigaeth grefyddol. Gadewch inni gymryd golwg fanylach ar stori'r Mayflower a'r portread ohoni yn Migrations.
Gan godi hwyl o un o'r trefi y teithiwn iddi, Plymouth, ar 16 Medi 1620, dechreuodd y Mayflower a'i theithwyr ar eu taith i America. Nodi 400 mlynedd ers y dyddiad hwn oedd bwriad y perfformiad cyntaf o Migrations, a'r olygfa drawiadol hon, yn darlunio'r gobaith o ddechrau newydd, sy'n agor yr opera. Mae'r llen yn codi ar gast o dros 100 o berfformwyr anhygoel, o dan oleuadau â thonyddiaeth las, wrth iddynt ganu mewn unsain, gan fynegi eu dyhead am ryddid.
'Rhyddid i weddïo, rhyddid i feddwl, i fynd, i aros. Yn rhydd i gredu...'
Fe gymerodd 66 diwrnod hir i'r Mayflower groesi'r Iwerydd. Effeithiwyd ar y daith anodd gan stormydd mawr, salwch môr a genedigaeth - y cyfan o fewn cyfyngder y dec islaw. Wrth i olau gwyn fflachio ar draws y llwyfan, mae'r cast yn symud nôl ac ymlaen yn wyllt, gan daro yn erbyn ei gilydd a gwegian, rhai'n gweddïo am gymorth, rhai'n taflu eu dwylo tuag at Dduw. Mae'n olygfa ddwys a dramatig sy'n dal y gynulleidfa ar unwaith.
'Troi a throsi mewn lle saith troedfedd ar hugain o hyd wrth bum troedfedd ar hugain o led'
Roedd afiechyd yn rhemp, roedd diffyg maeth, ac roedd amodau byw yn galed. Ganwyd plentyn, a enwyd yn addas iawn yn Oceanus, ar fwrdd y llong, ond yn anffodus, ni oroesodd dros hanner y teithwyr y fordaith. Darllenir enwau'r rhai a fu farw ar y llwyfan wrth i'w cyrff ddisgyn i'r llawr mewn cynrychioliad gweledol syfrdanol o faint o bobl fu farw.
'Duw, Duw, Duw, trosi, mewn cyfyngder, cronedig, yn gaeth gan bren a dŵr'
Yn y pen draw, daeth tir sych i'r golwg o'r Mayflower ac fe angorodd y llong ychydig i'r gogledd o Cape Cod ar yr 11 Tachwedd 1620. Dechreuodd yr ymsefydlwyr adeiladu eu bywydau newydd ac fe'u dysgwyd sut i hela a thyfu cnydau gan y brodorion a oedd yn byw yno eisoes. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, dathlodd ymsefydlwyr Plymouth eu cynhaeaf cyntaf mewn gŵyl o ddiolchgarwch; traddodiad sy'n dal i fodoli heddiw.
'Glanfa! Glanfa...fe'i gelwir yn New Plymouth pe goroeswn.'
Mae Migrations yn plethu stori'r Mayflower gyda phum stori arall am fudo, gan gyfuno straeon go iawn am unigolion amrywiol i un stori epig. Mwynhewch berfformiad yr Hydref hwn wrth inni fynd â'r opera newydd a gafodd ganmoliaeth gan y beirniad ar daith i Gaerdydd, Bryste, Llandudno, Birmingham, Southampton ac, wrth gwrs, cartref y Mayflower, Plymouth rhwng 2 Hydref a 26 Tachwedd