Un o’r straeon sy’n cael eu harchwilio yn opera rhagorol newydd Opera Cenedlaethol Cymru Migrations yw Treaty Six. Mae’r stori’n tynnu sylw at frwydr barhaus rhwng Cri Beaver Lake, pobl Cenedl Gyntaf yng Nghanada, sy’n ceisio diogelu eu ffordd o fyw. Mae’r cytuniad yn y teitl yn ddogfen go iawn a gafodd ei arwyddo ar 23 Awst 1876 yn Fort Carlton, Saskatchewan, rhwng y bobl Cri a Choron Canada – roedd y Cri yn ei gweld fel cytuniad o ‘heddwch a chyfeillgarwch’, wedi’i harwyddo gyda’r ‘pedwar cyfeiriad’, neu ‘X’ i’r byd Gorllewinol.
Fe wnaethom ofyn i’r libretydd Sarah Woods, a ysgrifennodd Treaty Six a The English Lesson, am ei hymagwedd at ysgrifennu’r ddwy stori wahanol ar gyfer ein hopera a sut y daeth ynghlwm a’r Genedl Gyntaf Cri a’u brwydr barhaus.
‘Mewn rhai ffyrdd, fe es i ati i ysgrifennu’r ddau ddarn yn yr un ffordd: mae’r ddau’n seiliedig ar fywydau pobl a’u profiadau cyfredol. Rwy’n teimlo’n angerddol am y ddwy stori ac mae’r ddwy’n canolbwyntio ar gymunedau rwy’n eu hadnabod ac rwyf wedi gweithio gyda nhw. Ar wahân i hynny, mae siâp y straeon yn wahanol. Tra bod y ddau yn digwydd yn y presennol ac yn cynnwys cymeriadau yn edrych yn ôl i eiliadau allweddol yn y gorffennol, mae Treaty Six yn ymwneud ag ymgyrch barhaus sy'n cael ei hymladd.
Deuddeg mlynedd yn ôl, fe wnes i ffilm am effeithiau’r tywodydd tar gyda grŵp o bobl ifanc o Gymru, ar y cyd a gwneuthurwr ffilmiau ifanc Cri o Beaver Lake a phobl ifanc o’r gymuned honno. Trwy’r prosiect hwn dysgais am y frwydr y maen nhw’n parhau i’w hymladd, i amddiffyn eu ffordd o fyw – ac i ddiogelu bywyd i bob un ohonom sy’n rhannu’r blaned.
Wrth ddychwelyd at y pwnc hwn, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi siarad â Crystal. Mae Crystal yn aelod o Genedl Cri Beaver Lake ac yn ymgyrchydd dylanwadol. Gwnaeth fy nghyfweliad â hi fy ngalluogi i ddeall stori’r gorffennol a’r presennol yn ddyfnach. Adeiladodd ar sgyrsiau a gefais flynyddoedd yn ôl gyda Myron Lameman, yr oedd ei fewnbwn hefyd yn bwysig ac ysbrydoledig.
Rwy’n cadw mewn cysylltiad â Crystal, yn enwedig i wneud yn siŵr ei bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd gyda’r opera. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r achos yn debyg iawn i'r un a gynrychiolir yn yr opera. Mae’r bobl angen ein cefnogaeth – ac maen nhw’n brwydro dros bob un ohonom.
Wrth baratoi’r opera Migrations ar gyfer ei chynhyrchu, roeddwn mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth Raven, sy’n codi cyllid ar gyfer amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer pobl frodorol yng Nghanada, i’w galluogi i amddiffyn eu hawliau a chynnal eu tiroedd a’u diwylliannau.
Wrth i Migrations fynd ar daith fel rhan o Dymor yr Hydref, gallwch weld sut mae Sarah yn llwyddo i bortreadu brwydr barhaus y bobl Cri yn erbyn pwysau datblygiad diwylliannol a sut mae’r stori hon yn cydberthyn ac yn cyfuno gyda’r pum stori arall yn ein cynhyrchiad epig am effeithiau niferus mudo. Gallwch weld y cynhyrchiad hwn yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham neu Southampton rhwng 2 Hydref a 26 Tachwedd.