Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydyn ni'n deall apêl cerddoriaeth Mozart, ac yn wir fwynhau perfformio ei operâu, megis ein cynhyrchiad o The Marriage of Figaro, a gychwynnodd deithio fel rhan o'n Tymor y Gwanwyn 2020. Rydym yn cydnabod yr hiwmor sydd yn yr operâu hyn, swyn y cymeriadau, yn ogystal â chryfder y gerddoriaeth, sydd hefyd yn portreadu ystyr dramatig - a all fod yn ddoniol. Gydag ariâu yn cyfleu ystod eang o emosiynau, a'r cyflymder y mae golygfeydd yn newid, mae Mozart yn defnyddio'i gerddoriaeth i wneud sylw ar gymeriad pob rôl, yn ogystal â phortreadu'r gweithredoedd sy'n digwydd ar y llwyfan. Does dim syndod fod ei gerddoriaeth yn cael ei chynnwys mor aml ar draciau sain ffilmiau.
Mae'r diwydiant ffilm wedi defnyddio ei gerddoriaeth ers dyddiau'r ffilmiau mud, yn cynnwys fersiynau gwreiddiol o Wuthering Heights (1939) – oedd yn defnyddio ‘Rondo alla turca’ fel thema ar gyfer dychweliad Heathcliff; a The Ipcress File (1965) – un o'r nifer o ffilmiau sy'n defnyddio ‘Eine kleine Nachtmusik’ gan Mozart. Defnyddiwyd ‘Il mio tesoro’ o Don Giovanni nifer o weithiau yn ystod y ffilm gomedi Ealing o 1949, Kind Hearts and Coronets, gan dynnu sylw at naratif y ffilm, sef dial a'r defnydd o gelwydd a chuddwisg. Yna, wrth blethu i mewn gyda thema ffilmiau cyffrous Hitchcock yn ein perfformiad o Psycho yn ystod y cloi mawr, mae Symffoni 34 gan Mozart hefyd yn Vertigo, ffilm gan Hitchcock o 1958.
Mae'r rhestr o ffilmiau yn faith, yn cynnwys rhai o'r brandiau mwyaf o'r 70au, o Bond, gyda Choncerto i'r Piano rhif 21 yn The Spy Who Loved Me (1977), i Woody Allen - ei ffilm Annie Hall (1977) a oedd yn cynnwys y Jupiter Symphony. Bu i ffilmiau Bond ddefnyddio Mozart yn 1987 gyda The Living Daylights, a oedd yn cynnwys Symffoni Rhif 40 ‘Molto allegro’, yn ogystal â ‘Voi, che sapete’ o The Marriage of Figaro.
Ar ddiwedd y 20fed ganrif gweler un o'r ffyrdd fwyaf eiconig y defnyddiwyd cerddoriaeth Mozart mewn ffilm: The Shawshank Redemption (1994) a ‘Sull’aria’ o The Marriage of Figaro - Mae Tim Robbins, carcharor, yn chwarae'r gerddoriaeth drwy system uwchseinydd y carchar, ar ôl cloi ei hun yn swyddfa'r warden, ac mae'r carchar cyfan yn dod i stop a gwrando ar y gerddoriaeth, ac yn cael eu hudo ganddi, a'i thrin fel cynrychiolaeth o ryddid.
Yn fwy diweddar, gellir clywed cerddoriaeth Mozart ar drac sain ffilmiau amrywiol, megis addasiad eleni o Emma, The Lost City of Z (2016), ffilm lwyddiannus o 2017 The Greatest Showman a Three Billboards Outside Ebbing, Missouri, Babyteeth (2019), a hyd yn oed Trolls: World Tour (2020) a Toy Story 4 (2019).
Mae rhai ffilmiau yn seiliedig ar Mozart ei hun, neu'n ei gynnwys fel cymeriad; yn cynnwys y ffilm sy'n fwyaf adnabyddus am wneud hyn, Amadeus (1984), sy'n seiliedig ar ddrama 1979 Peter Shaffer. Yn dilyn portread mwy ffraeth o Beethoven a Bach yn y ffilm wreiddiol (1989) a'r ail ffilm (1991), mae Mozart yn ymddangos mewn ffilm ddiweddaraf y gyfres - Bill & Ted, Face the Music.
Ar y cyfan, mae'n dangos pa mor addasadwy, ond perthnasol, yw cerddoriaeth Mozart, waeth beth yw'r cyfnod a phwy yw'r gynulleidfa. Felly beth am roi cynnig ar ei operâu, a rhoi cyfle i ddawn wreiddiol y dyn eich cyffwrdd chi?