Am ganrifoedd, mae dirgelwch a myth wedi amgylchynu cyfansoddiad olaf Mozart, y Requiem. Wrth i ni ddisgwyl perfformiad Cerddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru o’r darn hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 21 Ebrill, dewch i ni archwilio rhai o’r sïon cyfeiliornus mwyaf poblogaidd ynglŷn â’r cyfansoddiad.
Myth 1: Negesydd dirgel wrth y drws.
Pan ofynnwyd i Mozart gyfansoddi Requiem yn 1791, sef offeren dros y meirw, y sôn oedd bod gŵr ‘llwyd’ dirgel â chwfl am ei ben wedi ymweld ag ef. Ar y pryd, roedd iechyd Mozart yn dirywio ac roedd yn fwyfwy ofergoelus. Ar ôl derbyn y comisiwn dienw, yn ôl y sôn fe’i perswadiodd ei hun fod ei farwolaeth ar y gorwel a’i fod yn cyfansoddi ei offeren ei hun. A yw hyn yn wir? Pwy a ŵyr. Ond roedd ei wraig, Constanze, yn mynnu mai dyna oedd y gwirionedd.
Myth 2: Cystadleuaeth a arweiniodd at angau?
Ers marwolaeth Mozart, mae’r ‘cythraul cystadlu’ rhyngddo ef a’i gydgyfansoddwr Antonio Salieri wedi cael cryn sylw. Fel y ddau gyfansoddwr llys enwocaf yn Fienna, mae’n bosibl iawn roedd elfen o gystadleuaeth rhwng y ddau. Ond dros y blynyddoedd, mae dramâu fel Mozart and Salieri (1830) gan Alexander Pushkin ac Amadeus (1979) gan Peter Shaffer wedi hyrwyddo’r syniad bod Salieri yn ddigon cenfigennus i lofruddio Mozart.
Mewn gwirionedd, roedd Salieri yn gyfansoddwr dawnus a llwyddiannus yn ei rinwedd ei hun, a châi ei barchu yn Fienna fel cyfansoddwr y llys ymerodrol ac un o’r cerddorion mwyaf dylanwadol yn Ewrop. Mae’n ymddangos nad oedd y ddau yn gyfeillion mynwesol, ond nid oeddynt yn elynion glas chwaith.
Myth 3: Cwestiynau ynglŷn â dilysrwydd y cyfansoddiad
Mae’r ffilm Amadeus, a wnaed yn 1984 ac a seiliwyd ar ddrama Shaffer, wedi peri i lawer o bobl gredu bod Salieri wedi gweithio fel sgrifellwr ar ran Mozart pan oedd yn gaeth i’w wely yn ystod ei salwch oaf. Ond yn ôl pob tebyg, nid oedd Salieri yn gysylltiedig â chyfansoddi’r requiem.
Nid dyma’r awgrym cyntaf bod Mozart wedi cael help gan eraill wrth gyfansoddi’r requiem. Yn 1825, cyhoeddwyd erthygl a oedd yn amau dilysrwydd y gwaith ac esgorodd hyn ar drafodaeth ddi-fudd ymhlith ysgolheigion yn ystod y blynyddoedd canlynol.
Myth 4: Gwenwyno Mozart gan Salieri
Roedd y si bod Salieri wedi gwenwyno Mozart er mwyn cael gwared â’r cyfansoddwr hynod dalentog ar led hyd yn oed yn ystod oes Salieri. Ond er gwaethaf y gystadleuaeth rhwng y ddau, ni cheir unrhyw dystiolaeth i ategu’r awgrym bod Salieri yn dymuno lladd Mozart, na bod Salieri wedi’i wenwyno.
Ni wyddys beth yn union a achosodd farwolaeth Mozart, er bod cannoedd o wahanol ddamcaniaethau wedi cael eu cynnig. Ond gwyddom fod Salieri wedi ymweld â Mozart rai dyddiau cyn ei farwolaeth, ei fod wedi mynychu angladd Mozart a’i fod, yn ôl pob tebyg, wedi arwain y perfformiad cyntaf o’r Requiem.
Myth 5: Marwolaeth ddiurddas
Bu farw Mozart ar 5 Rhagfyr 1791 ac yntau’n 35 oed, ar ôl cwblhau oddeutu dwy ran o dair o’r Requiem. Y gerddoriaeth olaf iddo ei chyfansoddi erioed oedd wyth bar cyntaf y Lacrimosa yn y Requiem, gyda’r geiriau iasol olaf y diwrnod hwnnw o ddagrau a galar. Yn fuan ar ôl marwolaeth Mozart, cwblhawyd y Requiem gan ei ddisgybl Franz Xaver Süssmayr, trwy ddefnyddio brasluniau gan Mozart.
Dewch i wylio datganiad WNO o Requiem enwog a dwysingol Mozart yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd yn ystod ein cyngerdd Heddwch ac Angerdd nos Sul, 21 Ebrill am 7.30pm.