Heddwch ac Angerdd Corws a Cherddorfa WNO
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Noson o gampweithiau corawl a harddwch gobeithiol
Fauré Cantique de Jean Racine
Schumann Symffoni Rhif 4
Mozart Requiem
Ymgollwch yng nghyfansoddiad corawl hyfryd a dwys Fauré, Cantique de Jean Racine. Yn llawn urddas, ceinder a symlrwydd pur, mae Corws WNO yn camu i’r llwyfan i ganu’r darn clodwiw hwn, gan berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus.
Profwch lif di-dor o gerddoriaeth angerddol a thanbaid gyda Symffoni Rhif 4 Schumann. Yn torri’n rhydd o’r traddodiad symffonig, mae’r cylch parhaus hwn o ddrama yn cynnwys dwyster nodweddiadol y cyfansoddwr gyda fflachiadau o ysgafnder a llawenydd. Heddiw caiff ei hystyried fel y mwyaf rhamantus o’i hoff symffonïau.
I orffen y prynhawn, taith o ansicrwydd i obaith gyda champwaith diamser Mozart, Requiem. Yn fwrlwm o’r un theatr a dynoliaeth â’i weithiau llwyfan, mae Corws WNO yn cael cwmni’r unawdwyr Sophie Bevan, Kayleigh Decker, Egor Zhuravskii a James Platt.
Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 55 munud, gan gynnwys un egwyl
Cyflwynwyd fel rhan o Gyfres Caerydd Glasurol
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns