Newyddion

Anhrefn Aml-gymeriad yn Death in Venice

15 Mawrth 2024

Mae Tymor y Gwanwyn wedi gweld llwyfaniad cynhyrchiad cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru o Death in Venice gan Benjamin Britten. Yn yr opera, mae’r awdur enwog Gustav von Aschenbach yn mynd i Fenis i chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith newydd, lle mae’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r Tadzio ifanc ac yn dod ar draws saith cymeriad cythryblus a llawn dirgelwch sy’n ei dywys gam wrth gam tuag at ei farwolaeth.

Wrth addasu Death in Venice o’r nofel fer o’r un teitl gan Thomas Mann, penderfynodd Britten gastio saith rôl i un bariton i greu teimlad sylfaenol parhaus o anobaith sy’n dilyn Aschenbach. Yng nghynhyrchiad pum seren newydd WNO mae’r rolau hyn yn cael eu canu’n feistrolgar gan Roderick Williams. Cymerwch gip ar y cymeriadau wrth eu gwaith yn eu rôl unigryw yn cyflymu dadfeiliad meddyliol Aschenbach. 

Y Teithiwr
Wrth gerdded drwy faestref Munich, lle mae’n byw, mae Aschenbach yn gweld dieithryn llawn dirgelwch. Mae ei olwg arswydus yn annog Aschenbach i deithio tua’r de i Fenis. 

Yr Hen Goegyn 
Mae’r cwch i Fenis yn llawn o bobl ifanc swnllyd, a buan iawn mae Aschenbach yn sylweddoli bod un ohonynt, mewn gwirionedd, yn ddyn mewn oed sy’n ceisio edrych yn ieuengach, wedi ei wisgo mewn dillad hurt ac yn llawn colur. Wedi ei ffieiddio gan yr hen goegyn, mae Aschenbach yn cyrraedd Fenis yn isel ei ysbryd. 

Hen Gondolïwr
Mae’r ffurf llawn dirgelwch yn newid i’w drydedd ffurf fel yr hen gondolïwr sy’n dadlau gydag Aschenbach ynghylch mynd ag o i’r Lido yn hytrach na Schiavone. Mae’r gondolïwr yn ei heglu hi wedi iddynt gyrraedd y lan gan adael Aschenbach i gymharu ei daith â fel petai wedi croesi’r Styx, afon yr isfyd mewn mytholeg Roegaidd. 

Rheolwr y Gwesty
Mae rheolwr y gwesty’n croesawu Aschenbach ac yn ei dywys i’w ystafell sydd â golygfa wych o’r traeth. Yn y gwesty mae Aschenbach yn gwirioni gyda harddwch un o’r gwesteion, Tadizo, sy’n aros yno ar wyliau gyda’i deulu o Wlad Pwyl. 

Barbwr y Gwesty
Yn Act 2, mae Aschenbach yn cael torri ei wallt ac mae’n dychryn pan mae barbwr y gwesty’n sôn am ‘salwch’ ond yn gwrthod egluro mwy amdano. Mae’r barbwr yn ymddangos eto nes ymlaen yn yr opera i wisgo Aschenbach â wig a cholur llawn, yn union fel y Coegyn Oedrannus ar y cwch, yn gynharach yn yr opera.

Arweinydd y Cerddorion 
Ar ôl cinio ar deras y gwesty, mae grŵp o actorion crwydrol yn rhoi adloniant i’r gwesteion gydag ambell gân grotésg. Ar y cyfle cyntaf mae Aschenbach yn gofyn i arweinydd yr actorion ynghylch yr epidemig, ond unwaith eto, nid yw’n cael dim eglurhad. 

Llais Dionysus 
Yr olaf o’r saith cymeriad yw Dionysus, duw Groegaidd meddwdod, angerdd a llanast. Wrth i Aschenbach gysgu, mae’n breuddwydio am y duwiau Dionysus ac Apollo yn ymladd drosto, gyda Dionysus yn ennill ei enaid. O’r pwynt hwn ymlaen, mae Aschenbach yn ildio’n llwyr i’w ddyheadau ac yn caniatáu i’w ffawd angheuol ei orchfygu.  

Os yw’r cymeriadau llawn dirgelwch ac annymunol hyn wedi’ch gwneud yn chwilfrydig, dewch i weld y stori’n ymddatod mewn theatr yn lleol i chi wrth i gynhyrchid newydd WNO o Death in Venice ymweld â Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham tan 11 Mai 2024.