Newyddion

Ysbrydoliaeth Divine Comedy Dante ar Gerddoriaeth

15 Gorffennaf 2024

Wedi’i ystyried fel bardd ac awdur mwyaf erioed yr Eidal, mae Dante Alighieri yn fwyaf adnabyddus am ei gerdd naratif The Divine Comedy (La Divina Commedia). Fel un o weithiau ysgrifenedig mwyaf dylanwadol diwedd y cyfnod Canoloesol, mae’r Divine Comedy wedi ysbrydoli nifer sylweddol o weithiau cerddorol, yn enwedig opera Tymor yr Hydref 2024 WNO, Il trittico Puccini. Gadewch i ni gymryd golwg agosach.

Rachmaninoff’s Francesca da Rimini 

Mae opera Francesca da Rimini  gan Sergei Rachmaninoff yn seiliedig ar bumed caniad yr Inferno, rhan gyntaf y Divine Comedy. Wedi'i gosod yn Ail Gylch Uffern, mae Francesca o Rimini yn adrodd ei stori alarus i Dante, ei bod wedi'i thwyllo i briodi dyn nad oedd yn ei garu, a phan ddeuir o hyd iddi’n cadw oed godinebus gyda brawd ei gŵr, maent ill dau yn cael eu lladd gan ei phriod dialgar a’u caethiwo yn stormydd uffern hyd dragwyddoldeb. Perfformiwyd opera symffonig Rachmaninoff am y tro cyntaf yn 1906 yn Theatr y Bolshoi, Moscow, dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun.

Liszt’s Dante Symphony

Perfformiwyd Symffoni Dante Franz Liszt am y tro cyntaf yn Dresden ym 1857 ac mae'n dilyn taith Dante Alighieri drwy Uffern a Phurdan, yn unol â’r stori yn nwy ran gyntaf The Divine Comedy. Torrwyd cynlluniau ar gyfer trydydd symudiad i gynrychioli'r rhan olaf, Paradiso, ar ôl i Richard Wagner argyhoeddi Liszt na fyddai cyfansoddwr yn gallu gwneud cyfiawnder teilwng â phortread cerddorol o wynfyd. Yn hytrach, ychwanegwyd corws o angylion at symudiad terfynol y symffoni, fel pe gallai Dante weld y nefoedd o bell.

Louis Andriessen’s La Commedia

Mae'r cyfansoddwr cyfoes o'r Iseldiroedd, Louis Andriessen, yn un o'r cerddorion diweddaraf i gofleidio gwaith Dante fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth artistig. Mae 'opera ffilm' pum rhan Andriessen, La Commedia, yn ailadrodd stori Dante gyda libreto aml-iaith, gan ddefnyddio penillion o naratif gwreiddiol Dante, barddoniaeth JoostvandenVondel a darnau o'r Hen Destament. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Theatr Frenhinol Carré Amsterdam yn 2008. 

Tchaikovsky’s Francesca da Rimini

Cyfansoddwr Rwsiaidd mawr arall i ddod â stori Francesca da Rimini yn fyw oedd PyotrIlyichTchaikovsky. Wedi'i fwriadu'n wreiddiol ar gyfer opera, defnyddiodd Tchaikovsky Ganiad 5 o InfernoDante ar gyfer cathl symffonig(symphonicpoem)cerddorfaol dramatig a gyfansoddwyd ym 1876. Mae’r sgôr yn gwbl nodweddiadol ogerddoriaethTchaikovsky – llawn drama, angerdd ffyrnig a rhamant fawr – ac mae'n cyd-fynd yn berffaith â'i gatalog cerddorol o straeon serch trychinebus, yn enwedig SwanLake, EugeneOnegin a RomeoandJuliet. 

Puccini’s Il trittico and Gianni Schicchi

Yn olaf, gellir dweud bod cyfuniad Il trittico o dair opera un-act yn cyfateb yn berffaith i dair teyrnas The Divine Comedy sef Uffern, Purdan a Pharadwys gyda thrais Il tabarro, trasiedi Suor Angelica a llawenydd a chomedi Gianni Schicchi.

Mae cymeriad Gianni Schicchi yn benodol i'w weld yng Nghaniad 30 o'r Inferno, marchog Fflorentaidd sydd wedi cael ei gondemnio i Uffern am ddynwared Buoso Donati a ffugio ei ewyllys twyllodrus i'w ffafrio ef a'i deulu. Mae opera Puccini o Gianni Schicchi yn ddehongliad comig o'r stori ac mae'n cynnwys un o ariâu mwyaf poblogaidd yr opera erioed, O mio babbino caro Lauretta (O fy annwyl dad).

Tybed fydd Gianni Schicchi Puccini at eich dant? Mae Il trittico WNO yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ar 29 Medi, 3 a 5 Hydref, cyn mynd ar daith fel bil dwbl Suor Angelica a Gianni Schicchi i Landudno, Plymouth a Southampton gyda pherfformiad cyngerdd arbennig yn Rhydychen yn yr Hydref.