Newyddion

Dinasoedd Cerddorol - Dulyn

17 Mawrth 2021

Does dim gwadu bod Dulyn yn ddinas gerddorol. Mae alawon traddodiadol fel arfer yn gorlifo o ddrysau tafarndai wrth i chi gerdded strydoedd coblog Temple Bar, ond beth am hanes cerddoriaeth glasurol prifddinas Iwerddon?

Yn 1742 gwnaeth GF Handel arwain perfformiad cyntaf ei oratorio feistrolgar Messiah yn Neuadd Gerdd Neal’s, sydd wedi’i ddymchwel ers hynny, ar Stryd Fishamble, stryd hynaf Dulyn. Perfformir y gwaith enwog yn flynyddol yn y man gwreiddiol - sydd bellach yn westy sy’n dwyn enw Handel.

Ganwyd John Field yn Nulyn ar 26 Gorffennaf 1782. Mae'n fwyaf adnabyddus fel dyfeisiwr yr hwyrgan, ffurf gerddorol a wnaethpwyd yn enwog yn ddiweddarach gan Chopin. Treuliodd Field lawer o’i fywyd ym Moscow a chrybwyllir ef yn War and Peace pan mae’r Iarlles Rostava yn galw ar y cerddor cartref Rostov i chwarae ei hoff hwyrgan. Roedd y pianydd uchel ei barch o Hwngari, Franz Liszt, yn hyrwyddwr cerddoriaeth John Field ac ymwelodd ag Iwerddon yn ystod ei daith Brydeinig brysur yn ystod gaeaf 1840-41. Rhoddodd ei berfformiad agoriadol yn y Rotunda yn Nulyn ddeuddydd cyn y Nadolig.

Sefydlwyd y Royal Irish Academy of Music yn 1848 gan grŵp o selogion cerddoriaeth gan gynnwys John Stanford, Richard Michael Levey, a Joseph Robinson. Mae’r staff addysgu cyfredol yn cynnwys aelodau o’r National Symphony Orchestra of Ireland a’r RTÉ Concert Orchestra. Ganwyd mab John Stanford, Charles Villiers Stanford, yn Nulyn ar 30 Medi 1852. Astudiodd y piano a’r ffidil, ac yn ddiweddarach yr organ gyda Robert Prescott Stewart yn Eglwysi Cadeiriol Christchurch a St. Patrick’s. Astudiodd yng Nghaergrawnt, Leipzig a Berlin ac roedd yn un o'r athrawon a sefydlodd y Royal College of Music. Dylanwadodd yn fawr ar sawl cyfansoddwr Prydeinig; roedd Ralph Vaughan Williams, Syr Arthur Bliss a Gustav Holst ymysg ei ddisgyblion.

Amcangyfrifir, erbyn y 1850au y byddai bron i 3000 o bobl Dulyn wedi mynychu theatr, boed yn opera neu bantomeim, ar unrhyw un noson! Daeth cwmnïau opera Eidalaidd i'r ddinas bron bob hydref, a’u lleoliad oedd y Theatre Royal. 

Ganed y bardd a’r dramodydd Gwyddelig Oscar Wilde yn Nulyn yn 1852 ac aeth ymlaen i astudio yn Trinity College Dublin. Fe’i magwyd yn Rhif 1 St Stephen’s Green, ac mae cofeb ohono ar ffurf cerflun yn y parc gyferbyn. Salome (1891) gan Wilde yw sail Salome (1905) Richard Strauss, ac ysbrydolodd ei waith The Importance of Being Earnest (1895) opera Gerald Barry sy’n dwyn yr un enw, a welwyd am y tro cyntaf yn 2011.

Ganwyd Gerald Barry yn Swydd Clare yn 1952 ac ar ôl mynychu University College Dublin aeth i Amsterdam ac yn ddiweddarach Cologne i barhau â’i astudiaethau. Yn yr Almaen fe astudiodd gyda Stockhausen a Kagel, a daeth i sylw’r cyhoedd yn 1979 gyda’r gweithiau ensemble radical ‘________’ a Ø. Ysgrifennwyd yn yr Irish Times nad oedd ‘unrhyw gyfansoddwr Gwyddelig arall yn dod i’r meddwl sy’n cario’r un argoel o gyffro a gwreiddioldeb neu y mae ei gerddoriaeth yn golygu cymaint i ystod mor eang o wrandawyr.’ Cyflwynwyd y llwyfaniad cyntaf yn y byd o’i opera ddiweddaraf Alice’s Adventures Under Ground yn Covent Garden ym mis Chwefror 2020 mewn cynhyrchiad gan Antony McDonald a dderbyniodd adolygiadau gwych.

Mae Gerald Barry hefyd yn ymddangos yn 20 Shots of Opera, a ryddhawyd yn ddiweddar gan Irish National Opera. Dim ond yn ddiweddar y dathlodd y cwmni sydd wedi ei leoli yn Nulyn ei ail ben-blwydd, ac rydym ni yn WNO yn edrych ymlaen at weld ein cymdogion Gwyddelig yn mynd o nerth i nerth.