La Serenissima, Y Ddinas Arnofiol, Brenhines yr Adriatig – mae Fenis yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i’w heglwysi hanesyddol, ei phontydd cywrain a’i chamlesi troellog. Ond mae hanes ei cherddoriaeth glasurol yn gyfoethog hefyd.
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, ymhell cyn i’r Eidal fodoli fel gwlad unedig, Fenis oedd un o ddinasoedd mwyaf llewyrchus Ewrop. Datblygodd y ddinas ei thraddodiad ei hun o ran cerddoriaeth eglwysig, daeth yn ganolfan bwysig ar gyfer argraffu cerddoriaeth ac roedd yn gartref i eglwys enwog Sant Marc. Roedd Andrea a’i nai Giovanni Gabrieli ymhlith cyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus y ddinas ar y pryd, ac roeddynt yn enwog am eu corau dwbl a thriphlyg a hefyd am boblogeiddio’r arfer o ddefnyddio offerynnau pres, megis sacbytiau a chornedau.
Yn ddiweddarach yn y cyfnod Baróc, daeth Fenis yn gartref i dŷ opera cyhoeddus cyntaf y byd, sef y Teatro San Cassiano, a agorodd ei ddrysau yn 1637 i gynulleidfaoedd a oedd yn fodlon talu. Roedd Fenis yn ganolfan bwysig i’r byd opera cynnar yn Ewrop, ac erbyn y 1700au roedd ganddi saith o dai opera llawn-amser ar gyfer dinas ag oddeutu 160,000 o breswylwyr. Perfformiwyd opera Claudio Monteverdi, sef L’incoronazione di Poppea (Coroni Poppea), yn ystod Carnifal Fenis yn 1643, ac arweiniodd ei lwyddiannau operatig yn Fenis at agor theatrau tebyg mewn mannau eraill drwy’r Eidal. Cyfansoddwr operâu llwyddiannus arall yn y cyfnod oedd Antonio Vivaldi, a anwyd yn Fenis – er, mae’n fwyaf enwog heddiw am ei gerddoriaeth siambr.
La Fenice yw’r tŷ opera enwocaf yn Fenis, ac ers ei agor yn 1792 perfformiwyd nifer o operâu pwysig ynddo am y tro cyntaf. Mae’r rhain yn cynnwys operâu gan rai o gyfansoddwyr bel canto gorau’r Eidal, yn cynnwys Rossini, Bellini a Donizetti. Ond efallai mai’r cyfansoddwr pwysicaf yn hyn o beth oedd Giuseppe Verdi, ac yn y theatr hon y cafodd ei operâu Ernani, Attila, Rigoletto, La traviata a Simon Boccanegra eu perfformio am y tro cyntaf. Yn anffodus, aeth y tŷ opera ar dân ym 1996 (digwyddodd yr un peth ym 1774 ac ym 1836 hefyd), a bu’n rhaid ei ailadeiladu a’i ailagor yn 2004 – mae ei enw La Fenice (Y Ffenics) yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn dal i atgyfodi fel ffenics o’r llwch.
Arferai Richard Wagner ymweld â Fenis yn aml. Yn Fenis y gorffennodd gyfansoddi ail act ei opera Tristan und Isolde (1859) ac act olaf Parsifal (1882). Yn Fenis y bu Wagner farw hefyd: bu farw ar 13 Chwefror 1883 ym mhalas y Ca’ Vendramin Calergi ar y Gamlas Fawr ar ôl cael trawiad ar y galon. Cludwyd ei gorff i’r angladd gan orymdaith o gondolâu. Cafodd tad-yng-nghyfraith Wagner – sef Franz Liszt, y cyfansoddwr o Hwngari – ei ysgwyd yn fawr gan yr olygfa, ac yn ddiweddarach cyfansoddodd y darn piano La lugubre gondola (Y Gondola Du) er anrhydedd iddo.
Cyfansoddwr hollbwysig arall a dreuliodd amser yn Fenis oedd Benjamin Britten. Ymwelodd â Fenis am y tro cyntaf ym 1949, ac unwaith eto ym 1954 ar gyfer y perfformiad cyntaf o’i opera newydd yn La Fenice, sef The Turn of the Screw. Syrthiodd Britten mewn cariad â’r ddinas, ac ar ddiwedd ei oes cyfansoddodd ei opera olaf, Death in Venice (1973), ar sail nofel fer Thomas Mann. Lleolir yr opera ar Lido Fenis, ac mae’n adrodd hanes diddorol awdur sy’n heneiddio a’i ymchwil am berffeithrwydd ac ystyr harddwch yn ystod epidemig colera.
Er mwyn cael rhagflas o gyfaredd Fenis yn nes at eich cartref, beth am ddod i wylio cynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o Death in Venice? Bydd y cynhyrchiad yn agor yng Nghaerdydd ar 7 Mawrth 2024 ac yna bydd yn teithio i Landudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham tan 11 Mai 2024.