Newyddion

Cyfnodau Cerddorol - beth ydyn nhw?

2 Ebrill 2021

P'un a ydym yn sôn am y dauddegau neu’r chwedegau, un o'r pethau mwyaf sy’n diffinio cyfnod o amser yw ei cherddoriaeth. Gellir crynhoi degawdau cyfan gan ba newidiadau a ddigwyddodd ym myd cerddoriaeth a chelf. Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru rydym yn hen law ar bron pob cyfnod cerddorol, ond beth yw'r holl gyfnodau cerddorol a pha un yw eich ffefryn?

Er i opera gael ei geni yn y Dadeni, mae wedi llwyddo i aros yn gyfredol â newidiadau mewn cerddoriaeth glasurol drwy'r cyfnodau gydag operâu cyfoes yn dal i gael eu cyfansoddi hyd heddiw.

Mae genres cerddorol wedi ymddangos ar hyd yr amser a datblygu dros y blynyddoedd, dyma beth ydym yn ei alw'n gyfnodau cerddorol. Ond beth yw nodweddion penodol pob cyfnod? Sut ydych yn canfod eich ffefryn? Rydym yn ei egluro i chi yma. Er enghraifft, os mai'r ffliwt a'r recorder yn gymysg ag offerynnau llinynnol sy'n mynd â'ch bryd, yna cerddoriaeth ganoloesol gyda'i halawon ailadroddus yw'r cyfnod i chi. Os ydych chi'n hoff o'ch cerddoriaeth yn ddi-lol a'ch siantiau yn hir, hir, rhowch gynnig ar frenin y siantiau; y salm-dôn Gregoraidd.

Os nad yw siantio i chi, a hoffech fwy o harmoni a gwaith corawl, efallai y bydd cyfnod y Dadeni a barodd yn fras o'r 1400au i'r 1600au yn berffaith i chi. Ynghyd â chyflwyniad offerynnau pres a'r harpsicord yn cyrraedd y sin, roedd yn drobwynt mawr ar gyfer arlwy gerddorol fwy melodaidd.

Mae hyn yn ein harwain at gyfnod y Baróc; math o gerddoriaeth a fydd yn ysgogi golygfeydd o Rowan Atkinson yn chwarae Arglwydd Tuduraidd yn Blackadder II yn eich meddwl. Gydag offerynnau fel fersiwn gynnar o'r obo a dyfodiad y piano roedd yn rhywbeth gwerth ei weld.  Er, os nad oeddech yn hoff o gerddoriaeth y cyfnod hwn, roedd rhaid i chi ddygymod â hi gan i'r cyfnod Baróc bara'r 300 mlynedd nesaf.

Ar gyfer yr holl gariadon allan yna, efallai mai'r cyfnod Rhamantaidd yw eich cyfnod cerddorol o ddewis; meddyliwch am sonatâu piano breuddwydiol a feiolinau mympwyol - dyna yn union yw’r math hwn o gerddoriaeth. Harmonïau yn syth o'r nefoedd, canu'r piano yn feistrolgar a symffonïau mynegiannol a oedd wrth fodd y cyfansoddwyr Rhamantaidd Tchaikovsky, Brahms, Mahler, a Verdi.

Sy'n dod â ni at gerddoriaeth yr 20fed a'r 21ain ganrif, y gellir ei rhannu i'r cyfnodau canlynol - Argraffiadol: 1890 - 1925, Mynegiadol: 1908 - 1950, Modern: 1890 - 1975, Ôl-fodern: 1930 - hyd heddiw, ac yn olaf, Cyfoes: 1945 - hyd heddiw. Ond byddai'n rhaid cael erthygl arall i drafod y rhain.

Felly os nad yw cerddoriaeth bop hwyliog heddiw yn gweddu i'ch hwyliau ar hyn o bryd, ewch yn ôl mewn amser a gweld pa bleserau sy'n disgwyl amdanoch. Beth bynnag ddewiswch chi, mwynhewch y gwrando.