Ydych chi erioed wedi meddwl pam fod cyfansoddwyr opera yn cael eu cysylltu fwyaf â chanrifoedd y gorffennol? Pam fod y clasuron poblogaidd yn aml wedi'u cyfansoddi gan ddynion oedd yn gwisgo wigiau powdwr gwyn, gydag enwau megis Ludwig neu Wolfgang. Rydyn ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru yn mwynhau archwilio syniadau a cherddoriaeth newydd, gan y byw yn ogystal â'r meirw. Isod, rydym yn edrych ar gyfansoddwyr a anwyd yn y 20fed ganrif; maent yn feiddgar, chwilfrydig ac yn sicr, yn fyw.
Ac nid dyn yw pob un, fel mae Elena Langer yn ei brofi, wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus ar ôl astudio yn y Moscow Conservatoire, y Rooyal College of Music a'r Royal Academy of Music. Hi gyfansoddodd Figaro Gets a Divorce, Rhondda Rips It Up!, a bu iddi ddefnyddio sgôr leisiol a oroeswyd i ail-sgorio Puss in Boots, opera César Cui o 1913. Mae hi'n archwilio themâu o ystod eang, o symudiad y swffragét i afiechyd Alzheimer's a straeon tylwyth teg. Mewn cyfweliad yn trafod ysgrifennu Rhondda, dywedodd, 'Rydw i wedi cael digon o bethau digalon. Roeddwn eisiau ysgrifennu rhywbeth gyda hiwmor...' a dyna sut y bu i WNO gynhyrchu ei gwaith doniol, 5-seren, Rhondda Rips It Up!, gydag adolygiad The Times yn dweud, 'Rwy'n herio unrhyw un i beidio â chael eu hudo gan y cynhyrchiad gwrthryfelgar hwn. Mae'n orlawn o lawenydd dirmygus'.
Cyfansoddwr arall sy'n defnyddio ei lais i goffau symudiadau o'r byd hanesyddol yw Iain Bell; yn 2018, bu i New York City Opera ei gomisiynu i ysgrifennu'r opera, Stonewall, i gofnodi 50 mlynedd ers terfysgoedd Stonewall. Dywedodd, 'Mae bob amser yn fraint, fel cyfansoddwr, i roi llais i rywun neu rywbeth.' Ond mae wedi rhoi llais i nifer fawr o bethau, megis yn 2016 pan ysgrifennodd In Parenthesis, a oedd yn seiliedig ar gerdd eponymaidd David Jones am y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu i adolygiad 5-seren The Independent alw'r gwaith yn 'act bwerus i goffau.' Yr hyn sy'n amlwg am gyfansoddwyr cyfoes yw eu bod nhw'n gallu dod ag opera i du blaen diwylliant cyfoes drwy gyfansoddi gweithiau yn seiliedig ar atgof cyhoeddus diweddar, gan greu profiad sydd yn fwy perthnasol.
Mae Judith Weir hefyd yn gyfansoddwraig fodern arbennig, a dderbyniodd CBE yn 2005, ac ennill teitl y gyfansoddwraig fenywaidd gyntaf i fod yn Feistr ar Gerddoriaeth y Frenhines. Dywedodd Tim Ashley o The Guardian, 'Nid ydych yn cyfweld â Judith Weir ond yn hytrach yn dotio arni gan fod ei meddwl rhyfeddol yn crwydro o bwnc i bwnc.' Bwriadwyd perfformio ei gwaith llwyfan cyntaf, The Black Spider, gan Opera Ieuenctid WNO yn ystod Gwanwyn eleni, ond rydym yn gobeithio y bydd yn dychwelyd ryw ben yn y dyfodol. Mae hi'n diweddaru pawb am ei bywyd a'i gwaith ar ei blog, gan gynnwys ei rhestr o ganeuon yn ystod y cloi mawr (New Music Show Radio 3 a Beethoven), a'r hyn mae hi wedi bod yn ei wneud megis garddio, brwydro yn erbyn newid hinsawdd a'u cyfuno yn y Beethoven Pastoral Project.
Yr hyn sydd yn wych am y cyfansoddwyr uchod yw nad oes rhaid pendroni am beth oedd eu barn am rywbeth, neu sut aethant o'i chwmpas hi i wneud rhywbeth, mae'r cyfan ar gael i ni. Efallai y bydd ysgolheigion y dyfodol yn sgrialu o gwmpas yn ceisio dysgu beth oedd yn eu hysgogi, fel sydd yn digwydd heddiw gyda Mozart a'i gyfoedion, felly mae'n rhaid i ni werthfawrogi cael byw gyfochr â nhw nawr.