O hen Wlad Groeg i fforestydd llawn cysgodion a llongau ag ysbrydion, mae'r angen i adrodd straeon bob amser wedi tanio dychymyg dynoliaeth. Dyma daith drwy rai o’r cyfansoddiadau mwyaf cymhellol yn seiliedig ar chwedlau a lwyfannwyd erioed:
L’Orfeo – Monteverdi (1607)
Cychwynnodd yr opera gyda chwedl. Cymerodd L’Orfeo stori Orpheus, y cerddor a’r bardd Thracian chwedlonol, a feiddiodd fynd i mewn i’r isfyd i gael ei wraig goll, Eurydice, yn ôl. Mae L’Orfeo yn archwiliad o hynny.
Defnyddia Monteverdi daith Orpheus i ddangos grym emosiynol cerddoriaeth. Yn briodol, o ystyried bod Orpheus wedi swyno Proserpina, Brenhines Hades, gyda’i ddawn gerddorol, yn y pendraw yn deisebu rhyddhau ei bartner hir golledig. Yn anffodus, roedd gan Hades gynlluniau eraill mewn golwg…
Der Freischütz – Weber (1821)
Yn cael ei hystyried fel darn blaenllaw o gyfnod Rhamantaidd yr Almaen, mae’r opera hon yn cyfnewid duwiau am goedwigoedd ag ysbrydion. Mae'r stori'n dilyn Max, saethwr ifanc sydd wedi'i cholli cystadleuaeth saethu i werinwr. Yn daer i adennill ei anrhydedd ac ennill llaw'i anwylyd Agathe, mae'n cytuno i un gystadleuaeth saethu olaf. Ond gyda'i falchder wedi'i niweidio a'i ofn yn sleifio i mewn, mae'n gwneud dewis tyngedfennol; mae'n troi at y goruwchnaturiol.
Mae'r llwybr yn ei arwain yn ddwfn i 'Wolf's Glen' yn un o olygfeydd mwyaf dychrynllyd yr opera. Mewn bargen Faustiaidd, mae Max yn helpu castio saith bwled hudolus. Ond caiff ei rhybuddio: y cythraul Samiel sy'n rheoli'r fwled olaf, ac ef sy'n dewis y targed.
Mae'r gerddoriaeth yn cydbwyso rhwng alawon gwerin siriol ac ofn. Yn y gystadleuaeth olaf, mae Max yn tanio ac mae Agathe yn syrthio. Ond mae hi'n byw. Nid hi, ond Kaspar, gelyn Max a gwas Samiel. Mae Max bron yn cael ei alltudio gan y tywysog, ond mae Agathe'n erfyn am drugaredd, ac yn y pen draw, mae maddeuant gwastad yn ennill.
The Flying Dutchman – Wagner (1843)
Wedi’i felltithio i hwylio’r moroedd am byth, capten llong ysbrydion yn llawn anobaith yw’r Dutchman. Yr unig ffordd i’w ryddhau? Dod o hyd i rywun fydd yn ei garu’n ffyddlon hyd at farwolaeth. Mae sgôr epig Wagner yn ymgorffori’r môr ei hun.
Wrth wraidd y chwedl, mae Senta, menyw sy’n credu y gall newid ei galon. Pan mae’r ddau yn cwrdd o’r diwedd, mae eu cysylltiad yn ddisymwth ac yn ddwys. Mae’r Dutchman, wedi caledu gyda chanrifoedd o frad yn dechrau tynnu i ffwrdd. Mae’n rhaid iddi wneud penderfyniad dramatig. Aros yn ei byd ei hun neu aberthu popeth.
Yn y diwedd, ei gweithred anhunanol hi sy’n chwalu’r felltith. Cafodd y Dutchman ei achub, nid gan amser, na ffawd, ond gan gariad sy’n gofyn am ddim yn ôl.
Ah, lo previdi – Mozart
Nid yw’n opera, ond waeth iddi fod ddim. Mae aria gyngerdd ddramatig Mozart “Ah, lo previdi!” yn rhoi munud o rym amrwd, emosiynol wrth iddi alaru wedi marwolaeth ei hannwyl Euristeo. Mae’n ymosod ar Perseus am fethu ei amddiffyn, ei galar yn cynyddu i anobaith, ac yna’n diweddu mewn sibrydiad iasol o ymddiswyddiad: “Per pietà, non dirmi addio” (“Er mwyn trueni, paid â dweud ffarwel”).
Yma, mae Mozart yn crynhoi trychineb chwedlonol mewn llai na 15 munud—heb fod angen llwyfannu. Mae’r gerddorfa’n adlewyrchu ymdroelli seicolegol Andromeda ac mae’r ysgrifennu lleisiol yn cystadlu â’i arwresau operatig mwyaf. Mae’n ein hatgoffa bod chwedl, hyd yn oed y tu allan i operâu llawn, yn dal i gynnig cynfas ar gyfer drama fawr a thorcalon dwyfol i Mozart.
Wedi cael eich ysbrydoli?
Allwch chi wrando ar Ah, lo previdi a darnau o Der Freischutz yn ein cyngerdd Soiree Haf. Bydd The Flying Dutchman hefyd yn hwylio i'n llwyfannau yn Wanwyn 2026.