
Soiree Haf Cerddorfa WNO
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Schumann Genoveve Overture
Vaughan Williams Songs of Travel
Sarah Frances Jenkins The Coming of Night
Mendelssohn SymffoniRhif 5 Reformation
Ymunwch â Cherddorfa WNO a’r mezzo-soprano byd-enwog Tara Erraught, a’r arweinydd Harry Ogg, am gyngerdd haf bythgofiadwy.
Bydd y perfformiad yn cychwyn gyda drama Genoveve Overture Schumann, gan osod y llwyfan ar gyfer cyngerdd llawn angerdd a dwyster. Yna bydd Tarra Erraught yn serennu gyda chylch caneuon Vaughan Williams, Songs of Travel. Yn cael ei berfformio’n draddodiadol gan leisiau bariton, mae sain mezzo cyfoethog Erraught yn cynnig lliw a dyfnder newydd i’r darn am brofiad cwbl unigryw.
Yn dilyn yr egwyl, bydd The Coming of Night, Sarah Frances Jenkins, sydd yn seiliedig ar gerdd o’r un enw, yn swyno gwrandawyr gyda’i bortread atgofus o fin nos a harddwch tawel y cyfnos. Daw’r cyngerdd i ben gyda Symffoni Rhif 5 bywiog Mendelssohn, Reformation, diweddglo gorfoleddus yn llawn mawredd ac ysbryd.
Ymunwch â ni am gyngerdd gwefreiddiol fydd yn codi’ch calon ac yn eich gadael yn ymhyfrydu yn llawenydd yr haf.