Newyddion

Naples - Teatro di San Carlo

28 Medi 2020

Mae Naples 1,300 mlynedd yn hŷn na Rhufain, a chafodd ei sefydlu gan y Groegiaid hynafol gynt oddeutu 2000 mlynedd CC. Mae centro storico y ddinas (canolfan hanesyddol) yn Safle Dreftadaeth y Byd UNESCO, ac mae ei hamgueddfeydd yn gartref i rai o archaeoleg a chelf fwyaf cywrain Ewrop. Mae trydedd ddinas fwyaf yr Eidal hefyd yn ymffrostio fel bod yn fan geni'r pizza modern. Ac os nad oedd hynny'n ddigon, mae Naples yn gartref i theatr weithredol hynaf Ewrop, Teatro di San Carlo.

Gellir dyddio arbrofion sy'n cysylltu drama a cherddoriaeth yn Naples yn ôl mor gynnar â'r 16eg ganrif, a theatrau lleiaf y ddinas a ddatblygodd y commedia dell’arte traddodiadol i opera buffa (opera gomig). Un o'r cyfansoddwyr opera cyntaf i fod yn weithredol yn Naples oedd Scarlatti, a wysiwyd gan y Ficeroy ym 1684. Yn ogystal, treuliodd Handel dair blynedd yn coethi ei grefft yn yr Eidal fel gŵr ifanc, gan gyfansoddi cantata ddramatig yn Naples yn 1708 (Aci, Galatea e Polifemo). Yn 1737, bu i Fourbon cyntaf Naples, Brenin Carlos III, roi ei gefnogaeth i 'waith sy'n uno godidowgrwydd a rhyfeddod. Theatr! Y fwyaf yn Ewrop... sydd ar fin dod yn deyrnas gerddoriaeth opera'r byd.’ Adeiladwyd San Carlo 41 mlynedd cyn La Scala yn Milan a 55 mlynedd cyn La Fenice yn Fenis.

Bu i San Carlo ffynnu gydag un o'r impresario mwyaf llwyddiannus, Domenico Barbaia. Ef a ddenodd Rossini, Bellini a Donizetti i weithio yn Naples. Perfformiwyd opera gyntaf Rossini yn San Carlo ar 4 Hydref 1815, pan oedd ond yn 23 oed. Cafodd yr agorawd ar gyfer yr opera hon, Elisabetta, regina d’Inghliterra ei chyfansoddi gyntaf ar gyfer opera flaenorol, Aureliano in Palmira cyn glynu ei hun i un o'r operâu comig fwyaf llwyddiannus a gyfansoddwyd erioed, The Barber of Seville.

Symudodd Donizetti i Naples yn 1822, ac yn ystod ei gyfnod fel cyfansoddwr preswyl ar gyfer y theatr Naplaidd, roedd yn cyfansoddi oddeutu tair neu bedair opera bob blwyddyn. Nid yw'n syndod fod y Napliaid yn ei alw'n Dozzinetti (dozzina yn golygu dwsin yn Eidaleg). Mae ei operâu ar gyfer San Carlo yn cynnwys Maria Stuarda, Roberto Devereux a'r fythol Lucia di Lammermoor. Bu Donizetti'n byw yn Naples am 16 mlynedd, ond mae'r plac sydd wedi ei osod ar ei gartref yn anwybyddu ei operâu, ac yn ein hatgoffa mai ef oedd cyfansoddwr Ti voglio bene assaje. Dyma'r gân gyntaf i ennill gwobr cân boblogaidd Naplaidd yng Ngŵyl Piedigrotta yn 1835, gan arwain at darddiad masnachol y genre a roddwyd i ni weithiau megis Funiculì Funiculà a ‘O Sole mio.

Roedd pob cyfansoddwr opera mawr y 19eg ganrif eisiau gweld eu gwaith yn cael ei berfformio yn Naples. Cafodd nifer o weithiau Mercadante eu perfformio yn San Carlo, yn ogystal â Luisa Miller gan Verdi. Mae WNO yn ddiolchgar bod Teatro di San Carlo wedi chwarae rôl allweddol yn natblygiad rhai o'n hoff gyfansoddwyr. Mae San Carlo yn parhau i fod yn un o dai opera gorau’r Eidal, yn cyflwyno operâu, bale a chyngherddau. Hyd nes ein bod yn gallu ymweld â'r theatr arbennig hon sydd wrth galon hanes opera, gallwch archwilio Teatro di San Carlo, Naples ar Google Arts and Culture.