A ydych yn awyddus i brofi opera am y tro cyntaf, ond yn ansicr ynglŷn â beth y dylech fynd i’w weld? Na phoener, rydym yma i’ch helpu ar hyd y daith.
Mae’r rhestr o operâu yn ddiderfyn, ac fel unrhyw genre theatr nid oes un opera ‘unffurf’. Mae yna operâu hir (mae Die Meistersinger yn sefyll allan fel un o’r hiraf, yn para 5 awr a 35 munud), operâu byr, operâu a genir yn Eidaleg, Almaeneg, Rwsieg a mwy. Mae yna operâu a arweinir yn gyfan gwbl gan ferched; operâu a ddominyddir gan ddynion, operâu sy’n cynnwys anifeiliaid a straeon tylwyth teg sydd wedi eu haddasu i’r llwyfan operatig. Mae rhai yn hapus, ac eraill yn drist, ond mae yna hefyd nifer o operâu comig yn ogystal â rhai sy’n mynd i’r afael â materion gwleidyddol a chymdeithasol. Ar ddiwedd y dydd, mae yna gymaint o operâu i ddewis o’u plith, y peth gorau i’w wneud yw dewis pwnc sy’n apelio i chi.
Yn WNO bob Tymor rydym yn ceisio ein gorau i wneud yn siŵr ein bod yn perfformio detholiad a fydd yn apelio at aelodau cynulleidfaoedd o ystod eang, o bobl sy’n newydd i opera a phobl sy’n hen law arni.
Rydym eisiau annog pawb i brofi opera a helpu i gael gwared ar unrhyw gamdybiaethau sydd gan bobl am fynychu opera. Nid oes rhaid i chi gymryd ein gair ni yn unig, gwrandewch ar Steve Speirs yn ein rhoi ar ben ffordd o ran beth i’w ddisgwyl wrth brofi opera gyda WNO.
Nawr eich bod wedi gweld pa mor hamddenol y gall taith i weld opera fod, beth fyddwn ni’n ei argymell i chi?
Wel rydych yn lwcus, yr Hydref hwn rydym yn perfformio un o’r operâu mwyaf poblogaidd La traviata.
Wedi ei lleoli ym Mharis ar ddechrau’r 19eg ganrif, mae Alfredo, wedi disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda’r butain llys Violetta, er mawr siom i’w dad, Germont. Er ei bod hithau mewn cariad ag yntau, mae Violetta yn wael ac yn gwybod nad yw hi’n mynd i wella. Yn ofni y bydd hi’n marw’n fuan, mae Violetta yn cytuno i adael Alfredo am ei bod yn credu mai dyma sydd orau iddo. Dim ond pan mae’n clywed bod Violetta ar ei gwely angau y mae Germont yn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac yn cyfaddef popeth wrth Alfredo. Ond a yw hi’n rhy hwyr? A fyddant yn ailuno mewn pryd?
Caiff La traviata ei chymharu’n aml â nifer o ffilmiau modern, ymhlith y mwyaf poblogaidd mae Moulin Rouge. Mae’r ddwy yn adrodd stori putain llys, sy’n aberthu ei hapusrwydd ei hun ar draul cariad, dim ond i ymostwng i farwolaeth.
Mae’r stori glasurol hon yn portreadu cariad, colled a brad ac rydym wrth ein boddau i wahodd Anush Hovhannisyan i chwarae Violetta yn ei hymddangosiad cyntaf gyda WNO a chroesawu’n ôl Linda Richardson a berfformiodd y rhan y tro diwethaf i ni berfformio La traviata yn 2013. Bydd ein prif ferched yn rhannu’r rhan drwy gydol ein taith.