Newyddion

Un act, un ferch, un ystafell

3 Tachwedd 2020

Ysgrifennwyd La voix humaine gan y cyfansoddwr Ffrengig Francis Poulenc yn 1958. Dyma oedd ei ddehongliad o fonolog Jean Cocteau (a lwyfannwyd gyntaf yn 1930). Cafodd yr opera ei berfformio'n wreiddiol gyda gwaith llwyfan a set gan Cocteau yn 1959, yn Théâtre National de l’Opéra-Comique ym Mharis. Credir fod Poulenc wedi ysgrifennu'r darn ar gyfer y Soprano Ffrengig Denise Duval, oedd hefyd ynghlwm â'r cynhyrchiad.

Opera nas perfformir yn aml - ond mae sefyllfa anghyffredin eleni wedi amlygu nifer o gynyrchiadau ohoni ledled y byd (mae Pedro Almodóvar, cyfarwyddwr Sbaeneg, wedi gwneud ffilm yn seiliedig ar ddrama Cocteau). Dyma ail berfformiad Opera Cenedlaethol Cymru o La voix humaine gan Poulenc yn y pedair blynedd ddiwethaf (perfformiwyd yn flaenorol yn 2016), ac yn hytrach na'i chyflwyno ar y llwyfan, dyma'r ail dro i ni ddefnyddio ei hunigrywiaeth i greu cynhyrchiad mewn ffyrdd llai traddodiadol.

Mae La voix humaine (Y Llais Dynol) yn adrodd stori unochrog o berthynas yn chwalu, a'r cyfan mae'r gynulleidfa yn ei weld a'i glywed yw merch ar y ffôn. Nid ydych yn clywed y person arall sydd yn yr alwad. Dim ond un llais, un ochr o'r sgwrs, ac mae'r llais hwnnw - gyda chyfeiliant cerddorfa (neu biano yn unig ar brydiau, mewn fersiwn mae Poulenc ei hun wedi'i pherfformio sawl gwaith) - yn cyffwrdd ar bob emosiwn posib - nid opera i'r teulu ydyw. Cyffyrddir ar hunanladdiad yn ogystal â cholled, anobaith, ymbil, [hysteria], cenfigen a gwylltineb, ac wedi hyn oll, ymfodloni - heb roi'r argraff fod yr opera yn gorffen mewn ffordd gadarnhaol. Nid yw hynny'n wir o gwbl.

Ysgrifennwyd drama Cocteau bron i dri degawd cyn yr opera, ac mae'n delio gyda dirywiad un cymeriad, L, ac mae'r plot yn canolbwyntio ar alwad ffôn rhyngddi hi a'i chyn-gariad. Dim ond hanner y sgwrs rydym yn ei chlywed, gyda cherddoriaeth Poulenc yn llais arall ar brydiau, gan ychwanegu at y dyfnder emosiynol. Ar adegau eraill, mae'r gerddoriaeth yn cynrychioli'r gwirioneddol: swn y ffôn yn canu, alaw jazz yn cario ar y llinell ffôn. Mae motif swn y ffôn yn canu yn helpu i dorri ar yr opera, bron fel petai yn marcio newid mewn golygfa neu'n mynegi nad oes dim. Mae'r cyfan yn digwydd yn ei chartref, lle mae hi'n eistedd yn disgwyl am yr alwad.

Mae'r alwad ei hun yn gymhleth - gyda'r llinell yn torri sawl gwaith, rhifau anghywir a materion eraill gyda'r cysylltiad - ac mae hi'n aros am yr alwad y mae hi'n ysu amdani ers peth amser. Mae'r alwad gan ei chariad sydd eisoes â rhywun arall, ac yn cymryd fod y berthynas wedi dod i ben, ond mae L yn gweld yr alwad fel cyfle olaf i arbed y berthynas. Wrth wylio ei gweithredoedd, a gwrando ar ei hochr hi o'r sgwrs yn ystod yr alwad, gwelwn ei chyflwr meddwl bregus yn chwalu'n llwyr - mae hi'n cyrraedd y pen.

Yn syml, mae'n stori am gariad nas cydnabyddir a heriau merch gydag iselder, sy'n cael ei hadrodd mewn un act 40 munud o hyd, yn ei fflat. Mae'r British Theatre Guide yn ei galw'n 'gyflwyniad perffaith i opera'r 20fed ganrif': gwyliwch ein fersiwn newydd i'w phrofi gyda'ch llygaid eich hun.