La voix humaine Poulenc
Archived: 2020/2021Trosolwg
Mae menyw yn paratoi ar gyfer parti Zoom preifat yn ei fflat stiwdio yn Rhydychen….
Tra mae ei gwesteion yn disgwyl i’r parti ddechrau, mae’r fenyw ar y ffôn â’i chariad sydd newydd orffen eu perthynas. Wrth i’w byd chwalu, mae’r anobaith yn adeiladu at ddiweddglo ysgytwol.
Mae’r ffilm ddigidol newydd hon o gynhyrchiad 2016 David Pountney yn rhoi gwedd newydd ar yr opera glasurol hon o’r 20fed ganrif ac yn creu profiad operatig dwys, angerddol yn ystod cyfyngiadau symud.
Mae’n cynnwys iaith gref a themâu a all beri gofid i rai gwylwyr.
Defnyddiol i wybod
Ar gael i'w ffrydio am 6 mis o 25 Hydref 2020
Cyfieithiad Saesneg gan Richard Stokes
Ffeithiau
Wedi'i ffilmio gyda chanu a chyfeiliant piano byw ar leoliad yn Rhydychen ar 8 a 9 Medi 2020, o dan gyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol priodol
Synopsis
Mae L yn ei fflat ac mae'n ymddangos ei bod yn paratoi ar gyfer parti. Mae cwpl o alwadau ffôn yn tynnu ei sylw cyn iddi derbyn galwad gan yr un person roedd hi eisiau siarad ag ef - ei chyn-bartner.
Mae'n dweud wrtho am ei phenwythnos, yn siopa ac yn cael swper gyda ffrind, ond mae'n dod yn amlwg ei bod yn dweud celwydd. Mae'r cwpl yn trafod eu perthynas yn y gorffennol, ac mae L yn beio ei hun am eu problemau. Wrth iddi golli signal mae L yn cynddeiriogi. Mae'r alwad yn cael ei thorri'n fyr, felly mae L yn galw ei linell dir ac yn darganfod nad yw gartref.
Pan mae'n ei galw hi'n ôl, mae L yn datgelu, yn hytrach na mynd allan y noson flaenorol, ei bod wedi cymryd dwsin o dabledi cysgu. Mae L yn clywed sŵn yng nghefndir yr alwad ac yn dechrau amau. Wrth iddi geisio egluro sut mae hi'n teimlo mae'n dod yn amlwg nad yw'n poeni mwyach. Gan ddweud wrtho ei bod yn ei garu drosodd a throsodd, mae'n penderfynu cymryd camau mwy eithafol.