Newyddion

Agor byd opera

6 Ebrill 2020

Gall effaith y celfyddydau bara'n hir a chyrraedd yn bell, a dyna pam mae Opera Cenedlaethol Cymru'n gweithio'n galed i agor byd opera i bawb. Rydym eisiau cyrraedd y rhai a all gael eu heffeithio gan rwystrau cymdeithasol a diwylliannol, gan y gallant elwa fwyaf o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael.

Rydym wedi ystyried Birmingham fel ein cartref yn Lloegr ers sawl blwyddyn, ac mae'n un o'r dinasoedd rhanbarthol fwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn y DU, gyda phoblogaeth o 187 cenedligrwydd gwahanol. Mae'n ardal Hwb allweddol i WNO, lle rydym yn cynnig amrywiaeth o brosiectau cymunedol a arweinir gan ein Cynhyrchydd ym Mirmingham, ac mae un o'r prosiectau yn benodol ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid gyda phlant ifanc.

Ar gyfer y prosiect hwn, sy'n gweld plant y blynyddoedd cynnar yn creu cerddoriaeth, rydym yn gweithio gyda B'Opera, cwmni opera lleol i fabanod sy'n darparu sesiynau cerdd diddorol a rhyngweithiol yn rheolaidd i deuluoedd gyda phlant ifanc. Mae Zoe Challenor, sylfaenydd B'Opera, yn Arweinydd Lleisiol ar gyfer ein prosiect:

'Mae creu cerddoriaeth gyda grŵp o blant ifanc a theuluoedd sy'n ffoaduriaid yn St Chad’s Sanctuary ym Mirmingham yn werth chweil. Mae'r gweithdy wythnosol yn ein caniatáu i greu cysylltiadau tymor hir gyda'r teuluoedd sy'n mynychu'n rheolaidd, ac mae sawl newid cadarnhaol wedi digwydd ers i ni gychwyn.

‘Mae'r sesiynau'n dilyn strwythur sy'n cynnwys ailadrodd a chynefindra i'r babanod â'r plant bach; ac rydym yn gweithio gyda thema bob wythnos, er enghraifft, adrodd stori a Diwrnod y Llyfr. Rydym yn ceisio gwneud y sesiynau mor rhyngweithiol â phosib, gan ganu helo i bawb a dysgu eu henwau yn ogystal â chaneuon gyda symudiadau.

‘Rwyf wedi profi pethau arbennig yn y prosiect hwn. Un o'r enghreifftiau mwyaf cofiadwy yw bachgen bach, dwy oed, oedd yn crio ac yn ceisio gadael yr ystafell yn ystod y sesiynau cyntaf. Bellach, mae'n gwneud cyswllt llygaid, yn gwenu ac yn cyfathrebu gyda ni ar ddiwedd y sesiwn canu, mae'n dod yn syth ataf i - yn barod i chwarae offerynnau a gemau smalio. Hefyd, mae yna ferch fach, sydd hefyd yn ddwy, wedi darganfod cariad newydd at y gêm delwau dawnsio. Y tro cyntaf i ni ei gyflwyno, roeddech yn gallu clywed bloedd o chwerthin ganddi wrth i ni stopio'n stond mewn ystumiau doniol. Yna, cychwynnodd arbrofi, gan ddangos lefel newydd o hyder drwy arwain y gêm. Bu i bianydd WNO sydd ynghlwm â'r prosiect, Melissa Morris, ei gweld hi'n gwneud hyn...ac roedd yr holl oedolion yn dilyn y ferch fach mewn gêm roedd hi newydd ei dysgu (ac yn cael modd i fyw).

'Er gwaethaf y rhwystrau ieithyddol, rydym yn cysylltu a chyfathrebu drwy gerddoriaeth, chwerthin a'r natur fywiog ac anghyffredin o fod ymhlith blant bach Gall unrhyw beth ddigwydd yn y sesiynau hyn, ac rwyf wrth fy modd â'r digymhellrwydd. Rwy'n gwybod fod y plant hyn wedi ennill ymdeimlad o berchenogaeth dros gerddoriaeth ac adrodd stori, ac rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r prosiect a'u gweld nhw eto.'

Mae prosiect Creu Cerddoriaeth i'r Blynyddoedd Cynnar WNO yn cael ei gefnogi gan Gerddoriaeth Ieuenctid.