Yn ystod y 400 mlynedd o hanes opera, canolbwyntiwyd ar beth sy'n cael ei wisgo ar y llwyfan, ond yma, rydym yn cyflwyno ochr arall y stori i chi; beth mae'r gynulleidfa wedi ei wisgo; wals drwy hanes. Un o'r cwestiynau cyffredin a ofynnir i bob cwmni opera, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, yw ' beth ydych chi'n gwisgo i fynd i'r opera?
Y broblem i bobl yn y ganrif hon yw gwybod beth i'w wisgo a chael eu gweld, ond peidio â chael eu gweld o gwbl oedd yn peri problem yng nghymdeithas yr 18fed ganrif. Roedd pobl yn mynd i'r opera i ddangos eu ffrogiau diweddaraf, ond achoswyd stŵr wrth gyflwyno goleuadau electrig, er mwyn tywyllu goleuadau'r gynulleidfa; beth oedd pwrpas mynd os nad oedd neb yn gallu gweld eich ffrog newydd? Hefyd, roedd yn fwy anodd gweld y gêm gardiau roeddynt yn ei chwarae. Gwelwyd nifer o galonnau yn cael eu torri, ac ambell i ddyweddïad rhwng y carwyr yn ‘Fops alley’. Wrth gwrs, roedd pawb yn tawelu wrth i unawd adnabyddus gael ei chanu, ond ar y cyfan, roedd y cyfan yn un parti mawr, anhrefnus.
Mae Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain yn ddefnyddiol tu hwnt, ac yn rhoi darlun manwl i ni o beth fyddai'n cael ei wisgo, 'Roedd gwisg arferol yn cynnwys côt ar steil sgert hyd at y pen-glin, trywsus pen-glin, fest neu wasgod hir, crys lliain gyda ffril a dillad isaf lliain. Dangoswyd gwaelod y coesau, ac roedd yn rhan bwysig o'r silwét. Roedd y dynion yn gwisgo hosanau sidan ac esgidiau lledr gyda sawdl siapus isel neu ganolig. Byddai'r ensemble yn cael ei goroni gyda wig hyd yr ysgwydd oedd yn drwm ar y gwaelod a het tricorne (tair cornel), gyda'r ochrau wedi'u plygu i fyny. Felly, sodlau, wigiau a digon o goes ar arddangos sydd eu hangen arnoch. O ran y merched, mae'n syndod eu bod nhw wedi llwyddo i gerdded drwy'r drws o ystyried bod y cylchau yn eu sgerti yn mesur 1.5 medr ar draws, pan roeddynt fwyf poblogaidd (gallai fod yn offeryn mesur defnyddiol i gadw pellter cymdeithasol).
Bu i staesiau a chylchbeisiau bontio i'r 19eg ganrif, ond newidiodd popeth yn yr 1900au yn sgil dylanwad y dylunydd Paul Poiret, a gyflwynodd dillad llaes a oedd yn golygu dim mwy o deilwra anhyblyg i'r ffigur benywaidd a chyflwyno draping rhydd. A dyma ni, wedi cyrraedd y 21ain ganrif, lle gallwn weld yn union beth mae cynulleidfa yn ei wisgo i noson yn y Met, drwy blogiau megis #LastNightAtTheMet.
Wrth wylio pobl yn llifo drwy'r drysau, gallwch brofi pob sbectrwm o fywyd, o'r arferol i'r tu hwnt o gyfoethog. Mae'r amrywiaeth eang a geir mewn cynulleidfa yn yr opera fel arfer yn adlewyrchu cymdeithas y cyfnod. O staesiau i jîns, y prif beth rydym wedi ei sefydlu yw os yw eich clustiau yn glir, a bod dim paraffernalia yn eich llygaid, gallwch eistedd yn ôl, mwynhau'r stori yn cael ei hadrodd ac anghofio am beth rydych yn ei wisgo. Cyn belled nad ydych yn gwisgo basged ffrwythau yn steil Carmen Miranda ar eich pen (rydym eisiau i bobl eraill fwynhau'r sioe hefyd!), nid oes ots gennym beth rydych yn ei wisgo; y cyfan rydyn ni eisiau ei weld yw eich wynebau hardd yn ôl yn y neuadd eto.