Newyddion

Opera + Sinema = Y Cyfuniad Perffaith

29 Mehefin 2020

Ydych chi'n gweld eisiau perfformiadau byw Opera Cenedlaethol Cymru? Rydym ni'n gweld eisiau chi hefyd. Rydym yn eich methu chi cymaint rydym wedi llunio rhestr o ffilmiau sydd â pherfformiadau opera byw ynddynt fel y gallwch ail-greu'r teimlad o fod yn y sedd felfed eich hunain. Os ydych yn gweld eisiau si'r dorf, y clinc o ddiodydd yn ystod y toriad a'r wefr o weld yr holl gyffro'n datblygu o'ch blaen, dyma rai ffilmiau sy'n cwmpasu holl hwyl noson yn yr opera.

Rydym yn deall bod pobl yn cael dyddiau da a drwg drwy gydol y cyfnod clo, cyfnodau hapus a thrist, ac weithiau rydych yn profi ystod lawn o emosiynau mewn un diwrnod.  Yn ffodus i chi, mae cymaint o ffilmiau gydag opera ynddynt ar gyfer unrhyw achlysur. Os ydych eisiau ychwanegu rhywfaint o ramant yn ôl i'ch trefn ddyddiol, mae Cher yn gwylio La bohème yn y Met yn Moonstruck yn berffaith i chi. Mae Nicolas Cage a hithau'n gwneud cwpl ychydig yn wallgof (gall pob un ohonom gydymdeimlo â hynny ar hyn o bryd) ond pan fydd yn cymryd ei llaw wrth i'w llygaid ddechrau llenwi â dagrau, mae'ch llygaid chithau'n sicr o ddechrau llenwi â dagrau hefyd; fel dagrau Julia Roberts yn yr olygfa gofiadwy o Pretty Woman.

Os yw rhwystredigaethau'r fersiwn araf a gwag o fywyd ar hyn o bryd yn eich gwylltio, bydd Mission Impossible: Rogue Nation yn bendant o ddod ag ychydig o adrenalin i'ch ystafell fyw. Er, os ydych chi'n hoff o opera, mae'n debyg eich bod yn poeni mwy am Ethan Hunt Tom Cruise yn syrthio ar y llwyfan ac yn difetha Turandot gan Puccini, neu'n difrodi adeilad hardd Opera Gwladol Fienna.

Os ydych awydd chwerthin, mae gan Where Angels Fear to Tread olygfa wych lle mae Judy Davis, yn flin iawn, yn mynnu tawelu torfeydd hwyliog sy'n bloeddio mewn opera taleithiol yn yr Eidal (er, peidiwch â disgwyl i weddill y ffilm fod mor hwyliog) ond nid oes modd ichi beidio â dal eu brwdfrydedd. Y rheswm pam fod opera yn gweithio mor brydferth yn yr holl ffilmiau a genres hyn (pwy all anghofio'r olygfa syfrdanol yn ffilm ffuglen wyddonol Luc Besson, The Fifth Element - os nad ydych wedi ei gweld - gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gwylio) o estroniaid yn bloeddio canu ar y llwyfan i James Bond yn dychryn cynulleidfa Tosca yn Bregenz; opera yw'r foment ddramatig sydd ei hangen ar bob ffilm ac mae gan bob opera ddigonedd o hynny.

Os ydych wedi cael eich hudo gan rywbeth arlein ond erioed wedi bod, rydym yn eiddigeddus oherwydd, o, rydych chi am gael sioe - os yw aria yn gwneud i wallt ar gefn eich gwddf sefyll i fyny drwy eich teledu, dychmygwch y peth yn fyw. Yn wahanol i Mission Impossible, yr unig fwledi'n hedfan fydd y rhai trosiadol yn syth i'ch calon.