Mae storm wedi torri yn Opera Cenedlaethol Cymru wrth i'n Tymor yr Hydref newydd mynd allan ar daith gydag amrywiaeth o gynyrchiadau opera newydd ardderchog yn ei sgil. Dyma rai o'n hoff adegau tymhestlog ym myd opera ar draws y canrifoedd.
Peter Grimes gan Britten (1945)
Mewn pentref pysgota yn y 18fed ganrif, mae storm yn codi ac mae Peter Grimes, pysgotwr lleol sy’n destun ofn a chryn ddrwgdybiaeth, yn gwrthod cysgodi yn y dafarn leol gyda'i gyd-bentrefwyr. Mae'r dymestl yn un ffyrnig, â dilyw cerddorfaol yn udo ac ubain i’r dyfnderoedd, gyda'r timpani yn rhuo a'r offerynnau pres yn taranu.
Mae interliwd gerddorfaol Y Storm yn adnabyddus fel un o'r nifer fawr o enghreifftiau trawiadol yn opera Peter Grimes Benjamin Britten (1945), cynhyrchiad a oedd yn llwyddiant ysgubol yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac a gafodd y clod am adfywio opera Brydeinig.
William Tell gan Rossini (1829)
Efallai nad oes storm operatig enwocach na’r un yn opera olaf Rossini, sef William Tell. Yn seiliedig ar chwedl werin o’r Swistir a drama Friedrich Schiller o'r un enw, perfformiwyd opera Rossini am y tro cyntaf yn y Paris Opéra ym 1829. Daw'r storm o ail ran agorawd yr opera; o dawelwch cymharol mae storm beryglus yn ymchwyddo’n sydyn, wedi'i darogan gan sain yr offerynnau pres a’r drwm bas.
The Tempest gan Thomas Adès (2004)
Roedd The Tempest yn uchafbwynt cynnar yng ngyrfa'r cyfansoddwr cyfoes Prydeinig Thomas Adès. Wedi'i pherfformio gyntaf yn y Royal Opera House yn Llundain yn 2004 ag yntau’n ddim ond 33 oed, mae opera Adès yn addasiad o ddrama dymhestlog William Shakespeare sy'n ymwneud â hud, brad a dial ar ynys anghysbell. Mae golygfa agoriadol yr opera yn digwydd yng nghanol storm, wedi'i chonsurio gan y dewin Prospero, gan ddryllio llong hwylio gerllaw.
Die Walküre gan Wagner (1870)
Opera arall sy’n agor yng nghanol storm yw Die Walküre (Y Falcyri) gan Richard Wagner, yr ail o'i bedair opera sy'n rhan o'i gylch epig y Ring. Y Preliwd i Act I sy'n gosod yr olygfa: wrth ffoi rhag ei elynion, mae Siegmund yn dod o hyd i loches mewn annedd anghyfarwydd yng nghartref ei chwaer, Sieglinde. Daw sain y soddgrythau a'r basau dwbl i'r amlwg yn y rhagarweiniad cerddorfaol hwn; mae ymchwyddiadau sydyn eu brawddegu esgynnol a disgynnol yn cyfleu darlun o storm beryglus sy’n deilwng o’r duwiau Llychlynnaidd, cyn dwysáu'r perygl ymhellach gyda sain y cyrn a'r chwythbrennau.
Rigoletto gan Verdi (1851)
Roedd Verdi, y cyfansoddwr opera o fri o'r Eidal, wrth ei fodd yn cyfansoddi stormydd da yn ei operâu ac yn eu cynnwys yn rhai o'i weithiau gorau, megis yr olygfa agoriadol Otello a Chorws y Gwrachod yn Macbeth.
Yn Rigoletto, mae storm yn gefndir i ddatblygiadau sinistr y plot sydd wedi arwain at Gilda, merch Rigoletto, yn paratoi i aberthu ei bywyd dros y Dug y mae hi’n ei garu. Mae tremolo'r tannau, a bocca chiusa corws y dynion sy’n cyfleu synau ‘ŵŵŵŵ’ y gwynt, a tharanau dramatig i gyd yn cyfrannu at ddarogan iasol tranc Gilda.
Dewch i weld cynyrchiadau newydd Opera Genedlaethol Cymru o Rigoletto o 21 Medi 2024 a Peter Grimes o 5 Ebrill 2025, ar gael i'w harchebu nawr. A wnewch chi ddod drwy’r storm gyda ni?