Newyddion

Opera wedi'i hysbrydoli gan ddramâu

6 Hydref 2020

Mae opera yn cael ei gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd am ystod o resymau - y gerddoriaeth, yr angerdd, y perfformwyr, y ddrama. Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru rydym yn hoff o archwilio'r teitlau ymhellach, edrych ar eu hanes a beth sy'n ysbrydoli'r cyfansoddwyr. Rydym yn gwybod fod opera yn gysylltiedig â chelfyddyd eraill, mwy na mae pobl yn ei sylweddoli o bosib, ac yma byddwn yn edrych ar operâu sy'n seiliedig ar ddramâu adnabyddus (a llai adnabyddus).

Byddwn yn dechrau gyda'n cynyrchiadau presennol, a diweddaraf, sydd â chymaint o ddrama wrth wraidd yr opera.

Mae Jenůfa yn opera dair act gan Leoš Janáček, yn seiliedig ar y ddrama Její pastorkyňa gan Gabriella Preissová. Mae'n cael ei hadnabod am ei realaeth annheimladol, fel y ddrama wreiddiol, a stori am serch famol, balchder a maddeuant. Wedi perfformiad cyntaf y ddrama yn 1890, bu i Preissová wynebu beirniadaeth am y darlun o fam sengl nad oedd yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer llwyfan fonheddig.

Mae un o'n teitlau diweddar, Faust, wedi ei ysbrydoli gan nifer o ddarnau, yn cynnwys Faust et Marguerite, gan Michel Carré, a oedd yn seiliedig yn fras ar Faust, Part One gan Johann Wolfgang. Mae'r stori'n deillio o'r chwedl Almaenaidd, lle bu i ŵr werthu ei enaid i'r diafol, ac fe gychwynnodd fel stori farwolaeth grefyddol, gyda'r prif gymeriad yn cael ei gosbi am ffafrio dyn yn hytrach na gwybodaeth ddwyfol. Bu i Doctor Faustus gan Marlowe wneud y stori'n enwog yn Lloegr yn ei ffurf glasurol, ond mae dehongliad Goethe yn portreadu Faust fel deallusyn anfodlon sy'n dyheu am fwy na 'chig a diod cnawdol yn ystod ei fywyd'. Mae'r stori'n ymddangos yn The Master and Margarita gan Bulgakov, tra bod Doctor Faustus gan Thomas Mann yn cyfuno'r chwedl â chyd-destun o'r 20fed ganrif, gyda chyfansoddwr ffuglennol yn bargeinio am lwyddiant.

Mae un o hoff deitlau opera, La traviata gan Verdi, yn seiliedig ar La dame aux camellias, drama wedi ei haddasu o'r nofel fils, 1848 gan Alexander Dumas. Daeth stori rhannol bywgraffiadol o garwriaeth yr awdur gyda phutain i sylw Verdi, yn dilyn llwyddiant y ddrama, a bu iddo hefyd lwyddo yn y byd Saesneg, wrth i Camille gael ei pherfformio mewn 16 fersiwn wahanol yn Broadway yn unig.

Ni allwn ddod â'r drafodaeth i ben heb sôn am y dramodydd penigamp, William Shakespeare. Roedd Tymor yr Hydref WNO yn 2016 yn canolbwyntio ar waith wedi ei ysbrydoli gan y Bardd, ac yn cynnwys Macbeth gan Verdi, The Merchant of Venice gan Andre Tchaikowsky, a'r sioe gerdd Kiss Me, Kate yn seiliedig ar The Taming of the Shrew. Ymhlith y teitlau eraill sydd wedi cael eu trosi'n operâu mae Hamlet, Antony and Cleopatra, Julius Caesar, Love’s Labour’s Lost, King Lear, The Merry Wives of Windsor, A Midsummer Night’s Dream, Much Ado About Nothing, Othello, Romeo and Juliet, The Tempest a The Winter’s Tale.

Os ydych y mwynhau drama rymus, boed yn stori glasurol neu gyfoes, fe gewch hyd i opera rydych yn ei mwynhau hefyd.  Holl ddrama, gwewyr ac angerdd y stori, ynghyd â chanu cywrain a cherddorion byd enwog i gyfoethogi'r perfformiad ymhellach.