Bydd hyd yn oed y mynychwr opera mwyaf newydd, neu’r rhai nad ydynt erioed wedi bod mewn perfformiad yn gyfarwydd â Brindisi (Y Gân Yfed) o La traviata gan Verdi; mae wedi ymddangos mewn ffilmiau, teledu a hysbysebion. Mae Brindisi, neu ‘Libiamo ne' lieti calici’, sy’n cael ei chanu yn act gyntaf campwaith Verdi yn ddathliad llesmeiriedig, amseriad waltz lle mae Violetta ac Alfredo yn canu ‘Let’s drink from the joyful cups’ mewn parti Parisaidd ffansi.
Ond nid dyna’r unig gân ddiod yn y byd operatig; rydym wrth ein bodd yn codi gwydr (neu ddau, neu dri...) felly dewch i ni edrych ar rai o’r caneuon sy’n ein cael i hwyliau.
Don Giovanni: ‘Fin ch'han dal vino’
Gyda’r ffug-enw ‘The Champagne aria’, mae’r gân danllyd, gyflym hon gan yn cael Don Giovanni yn canu am ddawnsio, gwin a merched. Mae Donna Elvira yn torri ar draws ei fflyrtio â Zerlina sy’n ei ddadlennu fel merchetwr sy’n torri calonnau wrthi Donna Anna ei adnabod fel llofrudd ei thad, ac eto, mae Don Giovanni yn ffynnu yn yr anhrefn. Yn ei aria, mae’n gorchymyn i Leporello estyn y siampên a gwahodd yr holl ferched y gall ddod o hyd iddynt i ddawnsio ac yfed drwy gydol y noson.
The Bartered Bride: ‘To pivečko!’
Wrth i’r rhan fwyaf o operâu ganu am win neu siampên, mae Smetana yn rhoi awdl i gwrw yn ei opera ddoniol The Bartered Bride. Mae’r pentrefwyr yn morio canu cân ddiod (‘To beer!’), wrth ddawnsio dawns gyflym a thanllyd Bohemaidd. Maent yn canu ‘It's beer, it certainly is a gift from heaven’ wrth i Vašek, sydd i ffwrdd o'r rhialtwch, ystyried ei briodas arfaethedig yn nerfus.
Cavalleria rusticana: ‘Viva il vino spumeggiante’
Wrth i Smentana gyflwyno bugeilgan i gwrw, mae Mascagni yn gwneud cyfiawnder tebyg i win yn ei gorws yn Cavalleria Rusticana. Mae’n Sul y Pasg ac mae’r pentrefwyr newydd adael yr eglwys pan mae Turiddu yn gwahodd ei ffrindiau i ddod i yfed gwin ag o. Mae Turiddu mewn hwyliau da gan ei fod yn cael treulio amser gyda’i feistres, Lola, ac mae’n canu clodydd y gwin s’n gwneud pob syniad yn un llon..
Faust: ‘Vin ou bière’
Cwrw neu win… mae meddwyn yn yfed unrhyw beth! Neu dyna beth mae milwyr Gounod’ gan Faust yn ei ganu cyn cychwyn i ryfel. Mae’r criw o filwyr, myfyrwyr a merched lleol yn cyflwyno anthem swnllyd, llawn egni sy’n siŵr o’ch rhoi mewn ysbryd parti.
Carmen: 'Votre toast, je peux vous le rendre'
Wrth i’r Toreador Song adnabyddus gyfeirio fawr ddim at yfed, mae’r gân hon yn agor gyda’r ymladdwr teirw Escamillo yn cerdded i dafarn a chodi gwydryn. Mae’n mynd yn ei flaen i godi gwydryn i bawb sy’n ddigon dewr (neu’n wallgof) i wynebu’r teirw yn y gân fywiog hon.
Die Fledermaus: ‘Trinke, Liebchen, trinke schnell’
Cyfrinachau, cynlluniau a cham-adnabod sy’n ffurfio sail Die Fledermaus gan Strauss II...ac mae siampên yn cael y bai am y cyfan. Mae’r athro canu Alfred yn canu ‘Trinke, Liebchen, trinke schnell’ i’w gariad cudd ac yn adrodd yr hen ddihareb o'r Almaen ‘Hapus yw’r un sy’n anghofio’r hyn na ellir ei newid!’
Felly, codwch wydryn o win, cwrw neu beth bynnag arall a fynnwch i opera a’i chaneuon yfed niferus.
Mwynhewch berfformiad byw o’r Brindisi a sawl alaw hyfryd arall wrth i’n cynhyrchiad diamser o La traviata ddychwelyd i’r llwyfan fel rhan o’n Tymor yr Hydref 2023, gan ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton.