Newyddion

Oh là là- Sgandalau Operâu Paris

20 Awst 2020

Roedd opera yn newyddion cyffrous ym Mharis. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, câi hanesion Rossini, Grisi neu Rubini eu hadrodd yn rheolaidd a'u trafod yn eang, ac yn wir, roedd y prif berfformwyr yn cael eu hystyried a'u talu fel enwogion, yn yr un modd â sêr chwaraeon heddiw. Roedd yr holl gantorion gwych yn dod i Baris er mwyn cael canmoliaeth a chyflog uchel, gan mai yma yr oedd y prif gynyrchiadau yn cael eu perfformio a'r cyfansoddwyr enwog yn ysgrifennu eu gweithiau mwyaf uchelgeisiol. Yn wir, credid nad oedd cyfansoddwr wedi cyflawni ei statws yn y byd operatig oni bai fod ei waith wedi cael canmoliaeth ym Mharis.

Yn ystod Hydref 1853 symudodd Verdi i Paris. Roedd ei opera nesaf, Les vêpres siciliennes, yn cynnwys perfformiad gan y gantores Almaenig Sophie Cruvelli. Roedd hi'n cael ei hadnabod fel perfformwraig gywrain o rolau soprano Verdi, wedi ymddangos yn Ernani a Nabucco yn Llundain yn 1848, a Luisa Miller ym Milan yn 1850. Ar 9 Hydref 1855, roedd hi ar fin perfformio rôl Valentine yn Les Hugenots gan Meyerbeer, ond diflannodd Cruvelli! Bu i'w diflaniad achosi cynnwrf mawr a bu i bobl chwilio amdani ar draws Ewrop. Yn Llundain cafodd ffars newydd ei lwyfannu, o'r enw Where's Cruvelli? Fis yn ddiweddarach, ailymddangosodd La Cruvelli ar ôl treulio amser ar y Côte d’Azur gyda Barwn Vigier, mab cyfoethog tu hwnt o Baris. Ar ôl iddi ddychwelyd, perfformiodd rôl Valentine, ac yn ystod ymddangosiad cyntaf ei chymeriad, gofynnodd y Frenhines iddi 'Dywed wrthyf am ganlyniad dy daith feiddgar'. Roedd y cwestiwn mor addas nes i'r gynulleidfa gychwyn chwerthin yn uchel. Cafodd Les vêpres siciliennes ei pherfformio am y tro cyntaf ar 13 Mehefin 1855, yn y Théâtre Impérial de L’Opéra, gyda Sophie Cruvelli yn perfformio rôl Hélène.

Llai na 6 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Richard Wagner ei wahodd i lwyfannu fersiwn Ffrengig o Tannhäuser ar gais Napoleon III. Cafwyd cryn drafferth wrth i Wagner dderbyn y newyddion y byddai'n rhaid iddo ychwanegu bale at ei opera i weddu i gonfensiynau Parisiaidd. Fel arfer byddai bale yn cael ei berfformio ar ddiwedd ail act opera, mewn pryd ar gyfer cyrhaeddiad aelodau gwrywaidd ifanc, aristocrataidd y gynulleidfa, sef Clwb y Jocis. Er hyn, penderfynodd Wagner ymestyn act gyntaf ei waith, gan ychwanegu bale byr at yr olygfa yn nheyrnas bacchanalaidd Fenws. Yn ystod y noson agoriadol, clywyd chwibanu a bwio; bu i Glwb y Jocis drefnu i glapwyr hur ddod i'r perfformiad mewn ymateb i leoliad y bale. Wedi tri pherfformiad trychinebus, tynnwyd yr opera oddi ar y llwyfan a bu i Wagner adael Paris, byth i ddychwelyd.

Yn 1872, gofynnwyd i Georges Bizet ysgrifennu gwaith newydd ar gyfer Opéra-Comique Paris, a oedd wedi arbenigo mewn cyflwyno darnau ysgafn moesolaidd, lle mae rhinwedd yn cael ei gwobrwyo yn y pen draw, am ganrif. Roedd disgwyl i Bizet ysgrifennu rhywbeth cyffelyb i hynny, ond bu i un o gyfarwyddwyr y tŷ opera ymddiswyddo gan y bu i Carmen gloi gyda llofruddiaeth, yn hytrach na’r diweddglo hapus confensiynol. Fel un o operâu mwyaf poblogaidd y byd, mae’n anodd credu mai methiant llwyr oedd perfformiad cyntaf Carmen. Bu i'r gynulleidfa a'r cyfryngau wrthwynebu'r portread realistig a chroyw o rywioldeb merched. Yn yr 1870au, roedd merched fel arfer yn cael eu cadw o'r neilltu, eu hystyried fel gwrthrychau hanesyddol yng ngwisg y cyfnod neu'n cael eu cyflwyno fel duwiesau mytholegol. Roedd portreadu sefyllfa gyfoes a real merch ifanc dosbarth gweithiol yn rhywbeth nad oedd cynulleidfaoedd opera wedi ei brofi o'r blaen.

Ond nid cynnwys yr opera oedd yr unig beth i achosi cynnwrf ym Mharis. Yn ystod y trydydd ar ddeg ar hugain perfformiad o Carmen ar 2 Mehefin 1875, llewygodd Galli-Marié, y Carmen wreiddiol, ar ochr y llwyfan ar ôl y triawd cardiau yn Act III, lle mae Carmen yn rhagweld ei marwolaeth ei hun. Dywedodd ei bod wedi rhag-deimlo marwolaeth, ac yn ddiweddarach y noson honno, bu i Bizet farw wedi trawiad ar y galon yn 36 oed, yn gwbl anymwybodol y byddai ei opera yn dod yn llwyddiant ysgubol.