Newyddion

Ein hoff ddeinosoriaid o’r llwyfan a’r sgrin

22 Awst 2022

Gan gamu'n ôl mewn amser i dir cynhanesyddol, mae sioe deuluol hwyliog a rhyngweithiol Opera Cenedlaethol Cymru, Chwarae Opera YN FYW yn ôl, gyda thema Jurasig newydd sbon. Mae’r sioe hynod boblogaidd hon sy’n adloniadol ac addysgol yn addas ar gyfer pob oed ac yn ffordd berffaith o gyflwyno cerddoriaeth glasurol i’ch plant. Cyn Chwarae Opera YN FYW: Deinosoriaid Di-Ri, beth am gymryd cip ar dri o’n hoff ddeinosoriaid o’r llwyfan a’r sgrin?

1. Blue o Jurassic World

Mae Blue yn velociraptor benywaidd glyfar, cyfrwys a ffyddlon. Ar ôl derbyn Owen, yr hyfforddwr dynol, fel arweinydd ei phac, mae Blue a’i chwiorydd yn achub bywydau pawb sy’n ymweld â pharc thema deinosor Jurassic World, drwy dracio a hela’r Indominus Rex peryglus ar ôl iddo ddianc.

Gydag offerynnau llinynnol uchel, côr atmosfferig a motiff arwrol, mae Jurassic Park Theme gan John Williams yn ddarn epig o gerddoriaeth sy’n cyfoethogi bwrlwm y rhyddfraint hon. Fel rhan o Chwarae Opera YN FYW: Deinosoriaid Di-ri, cewch ail fyw helfa gyffrous Blue, neu ddychmygu eich bod yn cerdded ochr yn ochr â’r creaduriaid anhygoel hyn, wrth i’r Gerddorfa WNO gwych berfformio’r arwyddgan eiconig hon.

 

2. Barney o Barney and Friends

Mae Barney yn ddeinosor hwyliog, chwe throedfedd â chroen piws, bol gwyrdd a thraed melyn sydd wrth ei fodd yn canu a dawnsio. Ac yntau wedi dod yn fyw o ddyfnderoedd meddwl plentyn, mae Barney yn addysgu plant am y pleser o ddysgu, yn eu cynorthwyo i ganfod yr hud o fewn eu dychymyg, a’u hannog i garu’n ddiamod.

Mae cerddoriaeth, yn enwedig canu, yn chwarae rhan ganolog yn yr addysgu am y ‘teimlad deinosor’ hwn. O ganeuon cofiadwy am frwsio eich dannedd i alawon bachog sy’n dathlu bod pawb yn unigryw, dyma gyfres deledu sy’n defnyddio cerddoriaeth fel arf addysgiadol, yn union fel ein sioeau Chwarae Opera YN FYW.

 

3. T-Rex o Bumpus Jumpus Dinosaurumpus gan Tony Mitton

Does dim syndod mai’r Tyrannosaurus Rex yw’r creadur mwyaf bygythiol a pheryglus mewn ffilmiau am ddeinosoriaid, gyda’i benglog anferth, ei gynffon hir a’i awch rheibus am gig. Fodd bynnag, yn y llyfr Bumpus Jumpus Dinosaurumpus gan Tony Mitton, mae’r bwystfil ymhell o fod yn frawychus. Yn y stori ddoniol hon sy’n odli, mae pob deinosor, o’r Triceratops i’r Stegosaurus, yn dawnsio, yn ysgwyd, ac yn neidio o gwmpas mewn parti. Pan mae T-Rex yn galw heibio'r parti yn ddi-wahoddiad, mae’r deinosoriaid eraill yn poeni ei fod eisiau eu bwyta, ond mewn gwirionedd, yr hyn mae o eisiau ei wneud yw dawnsio.

Fel rhan o Chwarae Opera YN FYW: Deinosoriaid Di-Ri, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio addasiad cerddorol, hwyliog o’r llyfr plant hynod boblogaidd hwn. Gyda naratif gwreiddiol, cyffrous gan ein cyflwynydd anhygoel, Tom Redmond. Byddwch yn barod i ganu, dawnsio a stompio, yn debyg i’r deinosoriaid yn y llyfr hwn, wrth i’n tafluniadau fideo bywiog ddod â’r creaduriaid doniol, cynhanesyddol hyn yn fyw o flaen eich llygaid.

Waeth beth fo’ch oed, os ydych wrth eich bodd â deinosoriaid a chanu a dawnsio i gerddoriaeth, dysgu ffeithiau diddorol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, yn rhad ac am ddim, yna Chwarae Opera YN FYW: Deinosoriaid Di-Ri yw’r prynhawn perffaith i chi. Ymunwch â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 11 Medi a Theatre Royal Plymouth ar 30 Hydref.