Newyddion

Ein hoff gerddoriaeth i groesawu’r Flwyddyn Newydd

28 Rhagfyr 2023

Mae cynifer o ganeuon gwych wedi’u cyfansoddi’n benodol ar gyfer cyfnod y Flwyddyn Newydd (yn cynnwys rhai gan Taylor Swift ac ABBA). Ond beth am fwynhau rhywfaint o gerddoriaeth glasurol i ddiweddu tymor y gwyliau? Mae taith gyngherddol Blwyddyn Newydd Fiennaidd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru ar fin dechrau, felly beth am edrych yn ôl ar rai o’n hoff ddarnau ar gyfer dathlu a chroesawu’r Flwyddyn Newydd.

Music for the Royal Fireworks – Handel

Er mai yn yr Almaen y ganwyd George Frederick Handel, treuliodd y rhan fwyaf o’i oes waith yn Lloegr, gan gyfansoddi i Lys Brenhinol Lloegr yn ddiweddarach. Cafodd ei gyfansoddiad Music for the Royal Fireworks ei gomisiynu gan Siôr II i ddathlu diwedd Rhyfel yr Olyniaeth yn Awstria. Perfformiwyd y campwaith Baróc am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1749 yn Green Park, St James yn Llundain. I wneud yn siŵr y byddai modd clywed y gerddoriaeth uwchben yr arddangosfa tân gwyllt, defnyddiwyd grymoedd offerynnol enfawr yn cynnwys tri phâr o dympanau, naw corn a thrwmped, 12 basŵn a chynifer â 24 o chwaraewyr obo.

A New Year Carol – Benjamin Britten

Cyfansoddodd Benjamin Britten gerddoriaeth ar gyfer sawl carol Nadolig. Mae A New Year Carol (1934) wedi’i seilio ar gân werin draddodiadol yn Tom Tiddler’s Ground (1931) gan Walter de la Mare. Enwau eraill ar y garol yw Levy-Dew a Residue, ac mae’n tarddu o ddathliadau Blwyddyn Newydd yng Nghymru a’r hen draddodiad o ysgeintio pobl â dŵr a oedd newydd ei dynnu o ffynnon.

Les Patineurs (Y Sglefrwyr Rhew) – Emile Waldteufel

Ysgrifennodd Émile Waldteufel, y cyfansoddwr o Ffrainc, Les Patineurs ym 1882 – sef walts gerddorfaol fawreddog a ysbrydolwyd gan sglefrwyr rhew yn y Bois de Boulogne ym Mharis yn ystod gaeaf oer a rhewllyd ym 1879-1880. Plymiodd y tymheredd i’r lefel isaf a recordiwyd erioed yn y rhanbarth, sef -25℃, gan beri i’r Seine rewi, a mentrodd llawer o bobl i barciau ac afonydd lleol i fwynhau rhywfaint o sglefrio. Erbyn hyn, mae’r cyfansoddiad hwn yn un o ffefrynnau mawr y traddodiad cyngherddol Blwyddyn Newydd Fiennaidd.

Auld Lang Syne

Erbyn hyn, mae arfer pobl yr Alban o ganu Auld Lang Syne ar Nos Galan wedi lledaenu ar hyd a lled gwledydd sy’n siarad Saesneg, ond ychydig o bobl sy’n gwybod mai’r enwog Robert Burns a ysgrifennodd y gerdd wreiddiol ym 1788. Gan ffarwelio â’r flwyddyn a aeth heibio a chroesawu’r flwyddyn newydd, mae Auld Lang Syne yn ganolog i ddathliadau Blwyddyn Newydd. Yn draddodiadol, câi ei chanu am hanner nos gyda chymdogion, cyfeillion a theuluoedd yn gafael yn nwylo’i gilydd.

Polca Tritsch-Tratsch – Johann Strauss II

Cyfansoddodd Johann Strauss II weithiau cerddorol di-rif, yn eu plith nifer o waltsiau a pholcas, gan beri iddo gael ei alw’n ‘Frenin y Waltz’ trwy Ewrop. Un o’i weithiau mwyaf bywiog yw’r Polca Tritsch-Tratsch, a gyfansoddwyd ym 1858 yn dilyn ei daith gyngherddol i St Petersburg, Rwsia. Mewn Almaeneg, ystyr Tritsch-Tratsch yw Mân Siarad, gan gyfeirio at hoffer trigolion Fienna o hel straeon.

Os yw’r gerddoriaeth hon wedi eich temtio i ddathlu’r Flwyddyn Newydd, beth am ddod i wylio Dathliad Fiennaidd, sef cyngerdd ysblennydd gan Gerddorfa WNO – bydd yn ymweld ag Abertawe, Truro, Y Drenewydd, Bangor, Aberhonddu, Southampton, Caerdydd a Thyddewi rhwng 4 i 20 Ionawr 2024.