Mae stori Candide yn llawn cyffro, antur ac emosiwn, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu’n ardderchog yn y gerddoriaeth. Daw rhan fawr o’i hapêl o’r ffaith ei bod mor gyfoethog ac amrywiol, gydag elfennau o opereta, theatr gerdd a jazz, i enwi ond ychydig. Fodd bynnag, yr hyn sy’n goron ar y cyfan yw’r ffordd mae’n mynd â ni ar daith, ac i’r cyfansoddwr Leonard Bernstein mae’r diolch am hynny. Nawr, beth am roi blas i chi ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl - dyma ein hoff ganeuon o Candide...

Oh, Happy We
Yn agos at ddechrau’r stori, mae yna ddeuawd hyfryd rhwng y Candide ifanc a Cunégonde, sy’n dychmygu eu dyfodol gyda’i gilydd. Mae Oh, Happy We yn arddangos y cysyniad delfrydol sydd gan y pâr o’r byd a’u hoptimistiaeth. Mae hefyd yn dangos, mewn ffordd hwyliog, bod ganddynt syniadau cwbl wahanol ynghylch sut beth allai’r dyfodol fod; mae Candide yn gobeithio ‘adeiladu fferm fach’ tra mae Cunégonde yn dymuno ‘prynu iot a byw arni’. Er yn gwbl hurt, mae’r gân yn un hynod hwyliog, gyda cherddoriaeth achlysurol chwareus a phositif.
Glitter and Be Gay
Mae’r aria hon, sy’n cael ei chanu gan Cunégonde, yn un o ganeuon enwocaf Candide. Mae’n gân sy’n syfrdanu, ac yn dechnegol mae’n anodd iawn oherwydd y rhan coloratwra, lle mae’n rhaid i’r soprano daro’r nodau E leiaf uchel a rheoli triliau cyflym, rhediadau a neidiadau lleisiol. Yn yr un modd, mae’n her i berfformio mewn o safbwynt actio gan ei bod yn datgelu bod Cunégonde, dan yr wyneb, yn hynod o anhapus. Ar yr adeg yma, mae’n gweithio fel putain aruchel ac y mae’n cywilyddio ynghylch ei sefyllfa ac ar yr un pryd yn gwirioni oherwydd y buddion materol. Mae’n rhaid i’r gantores felly gydbwyso ystod cymhleth o emosiynau.
Nothing More Than This
Yn y gân hon, mae Candide, sydd wedi’i dadrithio gan y byd, yn galaru dros ei hobsesiwn gydag arian ac eiddo materol ac yn gofyn iddi ‘A oedd wahaniaeth gen ti erioed?’ Mae’r aria yn llawn gwylltineb ac anobaith a daw gyda cherddoriaeth drawiadol gyda deinameg amrywiol, cyfuniad sy’n tynnu’n galed ar linynnau’r galon.
Make Our Garden Grow
Mae diweddglo Candide yn bopeth y gallech fod wedi dymuno amdano: angerdd, datrysiad a gobaith ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus. Mae Candide yn agor y gân gyda thynerwch a phenderfyniad, gan gyfaddef ei fod ef a Cunégonde ill dau wedi bod yn ffyliaid, a chan ofyn iddi ei briodi fel y gallant ‘geisio, / Cyn i ni farw, / Wneud rhyw fath o synnwyr o fywyd’. Mae Cunégonde, sydd bellach yn sylweddoli nad arian yw’r hyn sy’n cyfrif go iawn, yn cytuno’n llon, gan fynegi ei barodrwydd i ‘ddysgu / Fy nwylo i bobi / Ein torth o fara beunyddiol’. Byddwch yn barod i gael eich synnu pan fydd yr is gymeriadau a Chorws WNO llawn yn ymuno, gan ddod ag ynni anhygoel i’r gân hardd, sy’n cynhesu’r galon.
Beth fydd eich hoff gân chi, tybed? Archebwch nawr i weld Candide yng Nghaerdydd, Southampton, Llandudno neu Fryste, ac archwiliwch yr amrywiaeth o ganeuon i blesio’r dorf sydd gan y perfformiad hwn i’w gynnig!