Corws WNO

Ensemble proffesiynol llawn amser yw Corws WNO sydd, ochr yn ochr â Cherddorfa WNO, yn ffurfio asgwrn cefn cerddorol ac artistig Opera Cenedlaethol Cymru. 

Maent yn chwarae rhan sylweddol yn y mwyafrif helaeth o'n perfformiadau operatig, yn ogystal â digwyddiadau eraill trwy gydol y flwyddyn. Pan ddewch chi i ddigwyddiad yn ein lleoliad cartref, Canolfan Mileniwm Cymru, neu ar daith ledled Cymru a Lloegr, nid ydych yn talu i weld sioe yn unig, rydych yn dod i gael profiad o ddigwyddiad unigryw byw nad oes dau berfformiad yr un fath.