Newyddion

Cerddoriaeth berffaith ar gyfer Nadolig teuluol

11 Rhagfyr 2020

"Mae'n noswyl Nadolig, a distaw yw'r tŷ, heb wich un llygoden trwy'r stafelloedd du;' Mae'n swnio'n braf, yn tydi? Ac yn eithaf heddychlon, er os oes gennych deulu, nid yw hwn yn Nadolig realistig i chi mae'n siŵr. Gyda Chenhedlaeth Z yn prysur ddysgu'r ddawns ddiweddaraf ar Tik Tok, babanod yn effro drwy'r nos - byddai noson o gwsg yn anrheg arbennig - Nain yn gwylio Strictly'n uchel ar y teledu a phopeth yn draed moch ar y cyfan. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwybod bod pob teulu'n wahanol, a ph'un a oes gennych filiynau o bobl yn baglu drwy'r drws yn ôl o'r dafarn (sy'n edrych yn annhebygol eleni), rhai bach yn rhedeg o gwmpas yn strancio, neu Nadolig i un gyda Zoom i weld ffrindiau ac anwyliaid. Byddem wrth ein bodd yn rhannu ein hoff alawon Nadoligaidd gyda phob un ohonoch.

A yw'r Nadolig wir yn Nadolig heb Dance of the Sugar Plum Fairy o The Nutcracker? Mae cerddoriaeth Pyotr Ilyich Tchaikovsky’ yn gwneud i chi feddwl am blu bach o eira neu glychau bychain ac os ydych chi erioed wedi pendroni beth sy'n gwneud y sain hyfryd, eglurodd y cyfansoddwr ei hun sut y daeth o hyd i'r selesta a ddyfeisiwyd yn ddiweddar, sydd 'hanner ffordd rhwng piano bach a Glockenspiel, gyda sain hynod o wych.' Sy'n addas iawn gan fod y gair 'celeste' yn golygu nefolaidd yn Ffrangeg. Er efallai nad ydym yn gwylio unrhyw fale yn y theatrau eleni, ni fydd hynny'n eich atal rhag gwylio hwn gartref a rhoi eich cynnig gorau arni.

Os nad bale yw eich dewis cyntaf a bod eich diwylliant Nadolig yn ymwneud yn fwy â chanu All I want for Christmas (is my two front teeth) yn y car, rydym yn deall yn iawn. Mae unrhyw un sydd wedi gweld recordiad newydd Mariah Carey ar gyfer y Nadolig gydag Ariana Grande a Jennifer Hudson o'r enw Oh Santa! yn siŵr o gael sioe a hanner. Os na allwch gyrraedd y nodau uchaf peidiwch â phoeni gallwch bob amser geisio dawnsio fel y corachod ar y cyrion - ac rydym wir yn eich annog i wisgo'r gwisgoedd hefyd.

Wrth gwrs, os welsoch chi ein rhaglen Chwarae Opera Nadolig arbennig, bydd Ding Dong Merrily o'n High a'r corws gloooooooo-ria yn mynd rownd eich pen yn ddi-baid - croeso! Os nad ydych wedi ei wylio eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn tiwnio i mewn i glywed Sleigh Ride Leroy Anderson ynghyd â chlip clop perffaith carnau ceirw (a cheirw go iawn.) A allwch chi weld pwy sy'n creu'r effeithiau sain yn y fideo. Os nad yw Cerddorfa WNO yn perfformio'n fyw eto, ynghyd â thinsel, yn medru dod â gwên i'ch wyneb, ni fydd unrhyw beth yn medru!

Hyd nes y gallwn berfformio'n fyw i chi eto, dymunwn Dawel Nos, Sanctaidd Nos ichi, gobeithio ichi fod mewn gwynfyd a hedd. Yng ngeiriau Siôn Corn, neu Clement Clarke Moor, wedi'u cyfieithu gan Myrddin ap Dafydd, 'Mwynhewch y Nadolig, Tangnefedd drwy'r byd!'