Newyddion

Popra: man cwrdd pop ac opera

6 Tachwedd 2020

Efallai eich bod yn meddwl bod caneuon pop ac opera yn wrthgyferbyniad llwyr i'w gilydd; gelynion pennaf na fydd byth yn cymodi. Fodd bynnag, mae croesfannau fel y recordiad etheraidd o Jeff Buckley'n canu Dido's Lament, neu gân Beyonce Ave Maria, yn dangos y gall cymysgu genres arwain at ganlyniadau trawiadol o gofiadwy. Mae Opera Cenedlaethol Cymru'n cytuno'n frwd.

Ni ellir gwadu bod cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd yn cyd-fynd yn hyfryd gyda'i gilydd; dim ond edrych ar y BBC Proms sydd angen i chi ei wneud er mwyn gweld y perfformiad anhygoel sy'n cael ei greu pan fydd cerddorfa'n perfformio. Enghraifft amlwg o hyn yw Ibiza Classics Radio 1, o wenau heintus y gerddorfa gallwch weld sut mae'r tro clasurol yn ychwanegu grym a difrifoldeb i'r llawenydd pur sy'n dod yn sgil pop. Neu fersiwn arbennig o drawiadol Sharon Van Etten o New York, I Love You But You're Bringing Me Down gan LCD Soundsystem. Yma mae Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio pa drysorau eraill sy'n pontio genres...

Mae gan Queen (y band, nid y Frenhines) ac opera hanes hir o ramant; o Freddie Mercury'n canu Barcelona gyda'r frenhines opera Montserrat Caballé i roi'r enw A Night at the Opera i un o'u halbymau gyda chymysgeddau opera fel Bohemian Rhapsody. Hefyd, wrth i Freddie floeddio, 'I don't want my freedom' yn It's a Hard Life, mae'n benthyg y llinell 'Ridi, Pagliaccio, sul tuo amore infranto!' (Chwarddwch, gwnewch hwyl o'ch cariad toredig!) o'r opera Pagliacci.

Mewn gwirionedd mae eraill wedi mynd â'r peth yn bellach gan greu albwm cyfan wedi'i ddylanwadu gan opera fel albwm Def Jam o'r enw The Rapsody Overture: Hip Hop Meets Classic. Cyfrannodd lawer o artistiaid rap ac artistiaid eraill i'r albwm ond mae un yn enwedig, cân LL Cool J, Dear Mallika, yn crynhoi drama'r Flower Duet  o Lakmé, gyda'r geiriau sydd nid yn unig yn adlewyrchu'r opera ei hun ond sy'n parhau i fod yn berthnasol iawn o fewn hinsawdd heddiw.

Wedyn mae'r canwr Mika sy'n boblogaidd am ganeuon fel Big Girls a Relax, Take it Easy. Ar gyfer ei gân Grace Kelly mae'n benthyg Largo Al Factotum o'r opera The Barber of Seville gan Rossini. Nid drwy lais neu samplu'n unig y gall opera gael ei ymgorffori, gyda chaneuon fel Plug in Baby Muse yn dangos y riff gitâr agoriadol o Toccata and Fugue in D minor yn troi cerddoriaeth glasurol yn gerddoriaeth roc.

Yn olaf, pwy all anghofio brenin a brenhines jas, Ella Fitzgerald a Louis Armstrong gyda'u fersiwn o Summertime o'r opera wreiddiol o 1935, Porgy and Bess. Mae wedi tyfu'n flaenllaw ymysg cerddoriaeth boblogaidd, gan fynd ymlaen i gasglu dros 33,000 o efelychiadau. Felly dyna ni, os yw'n gerddoriaeth bop, R&B, clasurol, roc, indie neu jas; gellir trawsnewid opera yn unrhyw beth ac mae'n ysbrydoli artistiaid eraill i ddatblygu a chreu gweithiau newydd. Wrth feddwl am y peth, mewn gwirionedd nid oes ffiniau i gerddoriaeth ac ni ddylai cyfyngiadau fod; felly rhowch groeso i'r croesfannau, yr hybridau a'r cymysgeddau hyfryd; mae'r byd eu hangen ac rydym wrth ein boddau â hwy.