Newyddion

Ar eich marciau, barod - RHONDDA

18 Ebrill 2018

Mae ymarferion ein cynhyrchiad newydd Rhondda Rips It Up! wedi dechrau ac mae cryn gyffro ynghylch y prosiect cyffrous hwn. Os nad ydych yn gwybod dim amdano - peidiwch â phoeni, dyma’r holl ffeithiau am y prosiect byrlymus hwn...

Yr Arglwyddes Rhondda

Opera cabaret newydd gan Elena Langer yw Rhondda Rips It Up! ac mae’n canolbwyntio ar Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), y swffragét o Gasnewydd a safodd dros hawl fenywod i bleidleisio yn ystod yr ymgyrchoedd dros etholfraint ar ddechrau’r 20fed ganrif. Wedi ei geni i deulu cyfoethog, ac yn ferch i ŵr busnes llwyddiannus a mam a oedd yn swffragét, cafodd Margaret ei magu i sefyll dros ei hawliau. Profodd hynny’n ddiweddarach yn ei bywyd, yn dilyn marwolaeth ei thad, pan geisiodd hawlio ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi a phan gafodd ei gwrthod parhaodd i frwydro dros yr hawl hwnnw weddill ei hoes. Yn ddiamheuol roedd Margaret Haig Thomas yn ysbrydoliaeth, ac mae’n parhau i fod, a pharatôdd y ffordd ar gyfer cydraddoldeb yn y DU. Yn 2011 cafodd portread ohoni ei arddangos yn y Galeri Brenhinol yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Oherwydd bod can mlynedd wedi mynd heibio ers i’r menywod cyntaf yn y DU dderbyn y bleidlais, roeddem yn meddwl mai dyma’r amser perffaith i rannu stori ei bywyd anhygoel sy’n sail i’r cynhyrchiad fydd yn teithio ledled Cymru a Lloegr yn ystod yr Haf a’r Hydref. I gael mwy o ffeithiau am yr Arglwyddes Rhondda, edrychwch ar y fideo yma a dysgwch fwy am y ddynes anhygoel hon.

Tu ôl i’r llenni

Gyda’r ymarferion yn dechrau rydym yn edrych ymlaen at weld noson agoriadol y cynhyrchiad hwn, sy’n addo bod yn gynhyrchiad newydd bendigedig. O’r cast i’r tîm creadigol, mae’n gynhyrchiad gan fenywod yn unig ac rydym yn meddwl fod hon yn ffordd wych o ddathlu pa mor bell yr ydym wedi teithio mewn can mlynedd yn y DU. 

Wrth edrych ymlaen at bremière byd y campwaith cerddorol hwn rydym wedi creu cyfres o fideos i ddogfennu’r broses o greu Rhondda Rips It Up! Dyma’r bennod gyntaf, ble rydym yn eich cyflwyno i’r gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Elena Langer ac yn rhoi cipolwg i chi o’r broses y maen nhw’n ei dilyn i greu cynhyrchiad newydd.

https://www.youtube.com/watch?... lle gallwch edrych ar y bennod nesaf pan fyddwn yn cwrdd â chofiannydd yr Arglwyddes Rhondda, Angela V John. Rydym yn siarad am fywyd Margaret Haig Thomas, ei rôl yn y mudiad swffraget ac yn gweld y portread ohoni sy’n cael ei arddangos yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn.

Am ragor o wybodaeth am y cynhyrchiad hwn, cliciwch yma. 


Cefnogir Rhondda Rips It Up! a'r gweithgareddau o amgylch gan:

 The Nicholas John Trust, er cof am Joan Moody

Noddwr balch o berffomriad bremier byd Rhondda Rips It Up!

Gwendoline and Margaret Davies Charity
The Leche Trust
The Joan Coates Charitable Trust
Mae perfformiadau WNO yn yr Hackney Empire, Llundain wedi eu cefnogi gan The John S Cohen Foundation
Mae perfformiad WNO yn yr Oxford Playhouse wedi ei gefnogi gan Sian Thomas Marshall
WNO Rhondda Union