Newyddion

Gwefusau coch sy'n torri hi i fyny!

24 Hydref 2018

Yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, daeth menywod o bob cwr o’r byd ynghyd i frwydro am eu hawl i bleidleisio – crwsâd a adnabuwyd fel mudiad y swffragetiaid. Yn ystod cyfnodau o galedi, roedd menywod yn gallu canfod cysur a phŵer mewn tiwb o finlliw coch, moeth a oedd yn arwydd o herfeiddiwch yn ystod y cyfnod hwn.

Daeth y minlliw coch yn rhan annatod o fudiad y swffragetiaid ym 1912, pan benderfynodd menyw o’r enw Elizabeth Arden, sylfaenydd y cwmni cynnyrch cosmetig, ymuno ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod a grymuso’r undeb. Pan aeth y swffragetiaid â’u hymgyrch ar strydoedd Fifth Avenue Efrog Newydd, rhoddodd Arden diwbiau o finlliw coch i swffragetiaid a âi heibio ei salon. Roedd hi eisiau i’r lliw fod yn symbol o obaith, pŵer a chryfder a brawdgarwch ar gyfer y rhai hynny a orymdeithiai. O ganlyniad, daeth lliw trawiadol y minlliw yn rhan allweddol o wisg y ralïau ac yn symbol o ryddid i fenywod. Mae’r symbol hwn yn dal yn berthnasol heddiw.

Yr haf hwn, i ddathlu canmlynedd ers gorymdaith gyntaf y menywod dros gydraddoldeb, ymunodd WNO â thîm creadigol holl fenywaidd i gyflwyno comedi cerddorol, uchel ei gloch, newydd sbon, Rhondda Rips It Up!, sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda) – menyw angerddol a chryf, a arweiniodd y ffordd i fudiad y swffragetiaid yng Nghasnewydd, de Cymru.

Mae MAC, brand cosmetig adnabyddus, wedi bod yn cefnogi WNO ers dros 10 mlynedd, gan ddarparu amrywiaeth o gynnyrch colur i’n hadran wigiau a cholur, gan gynnwys minlliw coch. Gyda dros 30 o gymeriadau yn rhan o nifer o’n cynyrchiadau, mae gweithio gyda MAC yn ein galluogi i greu edrychiadau gwahanol ar gyfer ein cynyrchiadau amrywiol.

Roeddem eisiau talu teyrnged i gryfder y swffragetiaid a’r cymorth yr ydym yn ei gael gan MAC drwy greu fideo yn seiliedig ar thema’r slogan enwog, Gweithredoedd Nid Geiriau, sy’n atseinio drwy Rhondda Rips It Up!, diolch i Gorws WNO.

Gwisgwch eich gwefusau coch gyda balchder.

Mae ein hopera-cabare pum seren, Rhondda Rips It Up! allan ar ail ran ei thaith y mis hwn, gan deithio i ddinasoedd ychwanegol yng Nghymru a Lloegr. Os na gawsoch chi gyfle i weld y cynhyrchiad yn yr haf, dyma eich cyfle i weld y cynhyrchiad newydd hwn gan WNO, sydd wedi derbyn cryn glod.