Newyddion

Rediscovering Margarita Xirgu

8 Medi 2023

Yn dod i lwyfan Opera Cenedlaethol Cymru cyn bo hir y mae opera Osvaldo Golijov, Ainadamar, sydd wedi ennill gwobr grammy ddwywaith. Dyma sioe wefreiddiol o ganu, fflamenco, dawnsio a barddoniaeth. Mae'r opera'n adrodd hanes llofruddiaeth y bardd a’r dramodydd o Sbaen, Federico García Lorca, a hynny drwy lygaid ffrind a chydweithiwr artistig ers amser maith, yr actores Margarita Xirgu. I ddathlu'r perfformiad cyntaf o Ainadamaryng Nghymru, rydym am edrych yn ôl ar fywyd Margarita a’r etifeddiaeth a adawodd ar ei hôl.

Ganwyd Margarita Xirgu yn 1888 ym Marcelona, prifddinas rhanbarth Gatalanaidd Sbaen. Yn ystod ei bywyd, daeth yn ffigwr blaenllaw yn hanes theatr Sbaeneg. Mae hi wedi’i phortreadu’n gyson mewn hanes fel awen i lawer o ddramodwyr gwrywaidd, ond mewn gwirionedd, roedd Margarita yn gymaint mwy nag ysbrydoliaeth i ddramodwyr. Fe weithiodd fel actores, cyfarwyddwr, rheolwr a chynhyrchydd yn ei rhinwedd ei hun. Gan ddechrau ei gyrfa yn theatrau amatur Barcelona, bu’n hyrwyddo gwaith dramodwyr Catalaneg ac yn actio yn yr iaith Gatalaneg ranbarthol. Yn ddiweddarach yn 1910, achosodd syndod a sgandal gyda'i phortread hynod rywiol o brif ran Salomé o waith Oscar Wilde, gyda gwisgoedd a oedd yn dangos ei bol.

Pan gyfarfu Margarita â Federico García Lorca yn ystod Haf 1926, roedd hi eisoes yn seren o fri ac yn un o enwogion blaenllaw ei dydd. Rhannodd Lorca ei ddrama Mariana Pineda gyda hi, gan obeithio y byddai hi’n ei llwyfannu. Roedd yn ddramateiddiad hanesyddol o’r merthyr chwyldroadol a anogodd wrthryfel yn erbyn awdurdod unbenaethol. Y flwyddyn ddilynol, cynhyrchodd Margarita y ddrama a chwarae’r brif ran ei hun, gan arddangos ei beiddgarwch dewr wrth herio unbennaeth Sbaen ar y pryd a oedd yn gwahardd gweithiau y gellid eu dehongli fel beirniadaeth o’r gyfundrefn. O hynny ymlaen, daeth Margarita a Lorca yn ffrindiau cadarn, a chychwyn ar berthynas artistig gydweithredol a arweiniodd at bum drama Lorca, The Shoemaker’s Prodigious Wife, Yerma, Blood Wedding, Doña Rosita the Spinster, a’i waith enwocaf a mwyaf oesol, The House of Bernarda Alba. Roedd pob un o’r pum gwaith yn cynnwys cymeriadau benywaidd dewr a ffyrnig o annibynnol, a ddaeth yn fyw gydag anogaeth a chefnogaeth Margarita.

Serch hynny, nid oedd ei chydweithrediad â Lorca i bara. Yn sgil Rhyfel Cartref Sbaen a ddechreuodd yn 1936, ffodd Margarita i alltudiaeth gyda’i chwmni theatr i America Ladin, tra arhosodd Lorca ar ôl yn Sbaen. Ymhen dim, llofruddiwyd Lorca gan Ffalanche Sbaen. Er gwaethaf ei galar ar ôl colli ei mamwlad a’i ffrind annwyl, ni chiliodd Margarita oddi wrth y theatr. Yn hytrach, aeth ymlaen a pharhau i actio ledled y byd Sbaeneg ei iaith. Roedd Margarita yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn wrth sicrhau lle dramâu Lorca yn y repertoire dramatig, na ellid eu perfformio yn Sbaen mwyach oherwydd eu bod wedi eu gwahardd. Bu farw ym Montevideo, Uruguay yn 1969.

I weld Margarita yn cael ei hanfarwoli ar y llwyfan, dewch i gael blas ar fyd cyfareddol Ainadamar, a berfformir yng Nghaerdydd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton rhwng 9 Medi a 22 Tachwedd 2023.