Newyddion

Ail-leoli, ail-leoli, ail-leoli

11 Ionawr 2021

Ail-leoli; ar ôl misoedd o fod yn yr un lle, rwy'n siŵr y byddem i gyd wrth ein bodd yn mynd i rywle poeth, heulog ac yn rhydd rhag corona, Os nad ydym yn breuddwydio am wlad gwbl wahanol, rydym o leiaf yn breuddwydio am rai amgylcheddau gwahanol; efallai fod y sioe deledu enwog Relocation, Relocation yn rhaglen deledu poblogaidd yn ystod y dydd ond mae'r hyn rydym ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn ei drafod heddiw ychydig yn fwy radical na ph'un a ydych am gael gardd sy'n wynebu'r de neu ddim. Defnyddiwyd ail-leoli mewn opera fel arfer i ddianc rhag sensoriaid llym gan y llywodraeth, ond fel arfer roedd yn fwy trosiadol na llythrennol.

Yn y 18fed a'r 19eg ganrif, y ffordd orau o ledaenu neges chwyldroadol fyddai drwy fformat opera, heb deledu na radio gallai'r neges ledaenu i'r niferoedd a gan fod canrannau mawr o'r boblogaeth yn anllythrennog, ffordd lafar oedd y ffordd ddelfrydol o gyrraedd pawb. Gan fod opera'n arfer bod yn ddigwyddiad cymdeithasol yn gyntaf oll, yn llawn pobl, roedd yn poeni'r rheini mewn safleoedd uwch y byddai canlyniadau'r holl siarad ar ôl perfformiad yn arwain at anarchiaeth.

Roedd bron pob opera yn Ewrop rhwng 1815 – 1914 yn nwylo sensoriaid llywodraeth. Cafodd gwaith gan Rossini, Donizetti, Beethoven, Wagner, Schubert, Rimsky-Korsakov, Tchaikovsky, a hyd yn oed ochr ysgafnach opera wedi'u heffeithio, cyfansoddwyr megis Offenbach a Gilbert a Sullivan. 'Roedd cerddoriaeth ei hun yn ymddangos yn ddigon diogel: Mae cerddorion yn lwcus, nid oes rhaid iddynt boeni am y sensoriaid, ysgrifennodd y dramodydd o Awstria, Franz Grillparzer. Fodd bynnag, roedd gan gerddoriaeth â geiriau y pŵer i ysgogi emosiynau'r bobl a'u hannog i weithredu yn erbyn y wladwriaeth.

Roedd y ddrama y tu ôl i'r llenni weithiau'n cystadlu â'r ddrama ar y llwyfan, roedd yn sicr yn ymddangos felly gydag operâu Verdi. Er enghraifft, roedd Rigoletto yn ymwneud â'r rhyfeloedd sensor ac o'r diwedd, bron i flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Ionawr 1851 roedd y partïon wedi setlo ar gyfaddawd: byddai gweithredu'r opera yn cael ei symud, a byddai rhai o'r cymeriadau'n cael eu hailenwi. Yn wahanol iawn i'r ymateb gwreiddiol i'r opera a ddisgrifiwyd gan y sensor o Awstria De Gorzkowski fel '[enghraifft] anghydnaws o anfoesoldeb a dibwys anllad.'

Mae gan wleidyddiaeth, rhyfel a'r teulu brenhinol i gyd ran i'w chwarae yn y gêm lle dylid lleoli eich opera. Nid oedd Verdi am dramgwyddo'n fwriadol ond dim ond dangos realiti bywyd fel y gallai'r ffurf gelfyddydol adlewyrchu cymdeithas a diwylliant y cyfnod. Yr hyn a welwn yw bod y rhai mewn grym ar y pryd mor ofnus i ganiatáu opera a allai roi enw drwg iddynt, eu bod yn eu gwahardd yn llythrennol rhag digwydd. Mae'n rhaid eu bod wedi gwybod, pan ddangosir y byd drwy opera, mai dyna pryd mae'r chwyldroadau'n dechrau.

Felly, os ydych chi'n teimlo'n ddiflas ac yn sownd, caewch eich llygaid a chludwch eich hun i rywle arall. Gwnaeth Verdi hynny gydag operâu cyfan er mwyn i chi allu gwneud hynny eich hun (ac efallai gyda'r enwogion rydych wedi mopio â nhw.) Mwynhewch ddychmygu, bawb...