Newyddion

Rhondda’n rhwygo’r rheolau!

14 Mehefin 2018

Fe wnaethom wir rhwygo’r llyfr rheolau wrth i ni gychwyn Tymor yr Haf…


Mae haf wedi cyrraedd ac rydym wedi cychwyn y Tymor gyda’n cynhyrchiad newydd ffraeth Rhondda Rips It Up! a gafodd ei berfformiad cyntaf ar 7 Mehefin ac sydd wedi cychwyn ar ei daith o amgylch Cymru a Lloegr. Mae’r comedi difyrrus yma yn croesi nifer o genres o neuadd gerdd i gabaret, wrth iddi gludo cynulleidfaoedd nol canrif i amser pan nad oedd gan fenywod yr hawl i bleidleisio. Dilynir Rhondda Rips It Up! fywyd a digwyddiadau ym mywyd go-iawn Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), y swffragét o Gasnewydd. Rydym yn credu byddai hi wedi bod wrth ei bodd gyda’r cynhyrchiad ac yn siŵr y byddai wedi bod yn chwifio’i fflag swffragét gyda’r gweddill ohonom.    

Dyma ychydig o uchafbwyntiau o’r noson agoriadol a oedd yn addas iawn yng Nghasnewydd, gyda llond trol o weithgareddau yn ystod y dydd a’r nos yn arwain lan at y premiere byd. 



I defy anyone not to be swept away by this rule-breaking production. It’s bursting with irreverent joy.

The Times


…Welsh National Opera has got itself a hit.

Theatre In Wales


Dyma ddetholiadau bach o’r adborth gwych dderbyniwyd o’n cynulleidfa a gafodd hwyl a sbri ar y noswaith, o’r perfformiad cyn i’r llenni godi gan y menywod o Gorws Cymunedol y De, a Dewch i Ganu gyda’r gynulleidfa yn y cyntedd, i’r diweddglo arbennig o’n cynhyrchiad diddanol iawn.

Os gwelsoch y premiere yng Nghasnewydd peidiwch â phoeni, mae Rhondda Rips It Up! ar daith ar draws Cymru a Lloegr Haf a Hydref yma. Ewch draw i’r dudalen digwyddiad ar gyfer yr holl ddyddiadau a lleoliadau.