Newyddion

Rossini – brenin yr arddulliau amrywiol

1 Hydref 2021

Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn hoffi dysgu ychydig mwy am y cyfansoddwyr y tu ôl i’r operâu yr ydym yn eu cynhyrchu, a chawsom ein synnu o ddysgu bod y dyn wrth wraidd The Barber of Seville, sef Rossini, yn ymddiddori mewn gwahanol arddulliau cerddoriaeth.

Ym myd opera, mae'n rhwydd cael eich ystrydebu y naill ffordd neu'r llall. Mae rhai cyfansoddwyr yn enwog am gael arddull unigryw, er enghraifft caiff Johann Strauss ll ei gysylltu â'i waltsiau a'i bolcas, mae Verdi yn adnabyddus am bŵer a drama ac mae Puccini yn frenin rhamant a thrasiedi.

Roedd Gioachino Rossini, ar y llaw arall, yn cyfnewid yn ddiymdrech rhwng operâu difrifol a doniol. Opera ddoniol un act o'r enw La Cambiale di Matrimonio oedd ei opera gyntaf yn 1812, a chafodd ei thair opera dilynol eu dosbarthu'n 'ffarsiau' hefyd. Daeth The Barber of Seville yn eithaf cynnar yn ei repertoire (1816) ac yn gomedi bywiog go iawn ond yn fuan wedyn dechreuodd ganolbwyntio ar ddrama a thrasiedi gydag Otello a Mose in Egitto (Moses yn yr Aifft). Cafodd lwyddiant arbennig ar draws pob arddull, a dim ond un methiant nodedig a ddaeth i'w ran, sef ei opera drasiedi Ermione.

Er, nid dyna ei diwedd hi. Cyfansoddodd Rossini 19 o gantodau, chwe sonata, 10 cyfansoddiad sanctaidd a rhestr hirfaith o gerddoriaeth leisiol anghysegredig.

Wedi dweud hynny, pwy sydd angen gelynion pan mae gennych ffrindiau fel Beethoven, a, yn ôl pob sôn, ddywedodd wrtho am ganolbwyntio'n unig ar waith fel The Barber of Seville! Mae'n debyg mai canmoliaeth fawr oedd hynny yn y bôn.

Yn y 21ain ganrif, rydym yn croesawu'r syniad o weithio y tu allan i’r ffiniau gyda chomedïwyr stand-yp Prydeinig yn serennu yn ffilmiau Hollywood, dawnswyr bale yn dod yn feirniaid mewn sioeau talent a chyflwynwyr radio yn ysgrifennu nofelau. Pwy fyddai wedi rhagweld y byddai Kenneth Branagh yn mynd o gyfarwyddo Hamlet Shakespeare i Thor gan Marvel neu Ang Lee yn dechrau arni gyda Sense and Sensibility, ac yna'n mynd ymlaen i Hulk; pan ddaeth J K Rowling yn frenhines ffugion plant, a wnaethom ni ddychmygu y byddai'n ailymgnawdoli'n fel Robert Galbraith a chreu'r ditectif preifat Cormoran Strike; ac yn y byd cerddoriaeth, cyfeirir yn aml at Madonna fel y frenhines ailddyfeisio ac mae gyrfa'r Cymro Tom Jones wedi para degawdau mewn roc a rôl, pop, y blŵs a gospel.

Mae opera yn genre mor eang â ffilmiau, llyfrau neu gerddoriaeth – er nad ydych yn hoff o bopeth, efallai y byddwch yn dod o hyd i rywbeth arbennig y gallwch uniaethu ag ef. Mae The Barber of Sevilleyn fyrlymus, yn rhwydd ei dilyn ac yn wirioneddol ddoniol, felly mae'n gyflwyniad gwych ac yn gyfle perffaith i gael Blas ar Opera.