Mae WNO yn croesawu Ysbyty Spire Caerdydd, darparwr gofal iechyd preifat blaenllaw yng Nghymru, fel ein Cefnogwr Corfforaethol diweddaraf. Byddant yn cefnogi ein sesiynau ‘Dewch i Ganu’ mewn dau ysbyty dros y flwyddyn nesaf. Bob dydd Gwener byddwn yn darparu profiad cerddorol llawen i gleifion ward, eu teuluoedd a’r staff. Mae'r bartneriaeth hon yn arddangos pwysigrwydd cynyddol defnyddio'r celfyddydau i wella iechyd a lles.
Heather Dob, Cyfarwyddwr Ysbyty, Ysbyty Spire CaerdyddThis was first brought to our attention by Spire Consultant Mr Mike Lewis who had seen the dementia program and its benefits at the University Hospital of Wales. We were convinced the project had to benefit patients and, therefore we were delighted to be able to support the project with Mr Mike Lewis at Spire Cardiff, to help as many patients with dementia as possible.
Bu digon o dystiolaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i awgrymu bod defnyddio'r celfyddydau mewn gofal iechyd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau iechyd cleifion. Mae'r celfyddydau o fudd i gleifion gan eu bod yn cefnogi eu hadferiad corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn lleddfu pryder ac yn lleihau'r canfyddiad o boen. Fel y sefydliad celfyddydol mwyaf yng Nghymru mae gennym brofiad o weithio yn y maes hwn ac rydym am gymryd camau pellach i ddod yn rhan o'r mudiad hwn sy'n cael ei gofleidio'n helaeth gan y proffesiwn meddygol.
Ers y flwyddyn ddiwethaf, mae WNO wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn cyflwyno sesiynau ‘Dewch i Ganu’ yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd bob prynhawn Gwener. Mae Kate Woolveridge, Animateur Lleisiol WNO, wedi cyfrannu'n rheolaidd at y prosiect, ‘I passionately believe in the power of music to enhance all of our lives and to create a sense of wellbeing and community. I cannot think of a better way to spend my Friday afternoon – it is a total joy.’
Yn ystod y sesiynau, mae nifer o berthnasau cleifion wedi dweud wrthym fod WNO wedi creu atgofion i'w hanwyliaid y byddant yn eu cofio am byth. Rydym yn gobeithio parhau i greu effaith ystyrlon trwy flwyddyn nesaf y prosiect, gan ddarparu dihangfa fawr ei hangen yn ystod cyfnodau heriol.
O ddiwedd mis Medi, byddwn yn parhau â'n partneriaeth gydag Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, gan ailafael yn ein gwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda sesiynau yn y ward Trawma ac Orthopaedeg. Rydym yn ychwanegu ysbyty newydd at ein rhaglen sef Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae ganddyn nhw wardiau newydd sbon ar gyfer y cleifion oedrannus, lle byddwn ni'n cynnal ein sesiynau gyda chymorth y sefydliad Mental Health Matters (MHM). Eu hunig gyfrifoldeb yw iechyd meddwl a lles y cleifion; byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i gyflwyno'r sesiynau i'r cleifion.
Rydym yn edrych ymlaen at fynd ag opera i'r ddau ysbyty yma dros y flwyddyn nesaf, gan helpu i sicrhau gwelliant yn iechyd a lles cleifion oedrannus ac arhosiad hir, gan rannu'r un gwerthoedd ac ymrwymiad ag Ysbyty Spire Caerdydd.
Mae rhaglen ysbytai WNO hefyd yn cael ei chefnogi gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.