O ganlyniad i’r pandemig COVID19 parhaus, a’r cyfyngiadau cysylltiedig, yn anffodus, rydym wedi penderfynu canslo ein Tymor y Gwanwyn 2021. Mae’r cyfnod clo presennol a chau’r rhan fwyaf o theatrau tan Ebrill 2021 o leiaf yn ei gwneud yn amhosib i ni ymarfer, llwyfannu a theithio fel y cynlluniwyd.
Eglura Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang ‘Aethom i mewn i’r Nadolig yn llawn gobaith bod y sefyllfa wedi dechrau gwella, ac y gallem gynhyrchu Tymor y Gwanwyn, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu fersiwn ar raddfa lai. Mae pa mor gyflym mae’r feirws wedi lledaenu ers hynny, fodd bynnag, wedi achosi i ni ailasesu’r sefyllfa. Er bod y penderfyniad i ganslo ein Tymor y Gwanwyn yn hynod siomedig i bawb, perfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, diogelwch yw ein prif flaenoriaeth bob amser. Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd yn drech na phopeth sy’n gysylltiedig â rhoi cynhyrchiad at ei gilydd – statws ein lleoliadau teithio, cyfyngiadau teithio ar gyfer artistiaid tramor a chanllawiau’r llywodraeth ynglŷn ag ymarfer a pherfformio. Rydym felly yn ailystyried pa waith allwn ei gyflwyno ar ôl y Pasg, yn edrych ymhellach tua’r dyfodol, ac yn cynllunio o’r newydd ar gyfer dychwelyd i’r llwyfan yn yr Hydref.
Bydd lleoliadau yn cysylltu â deiliaid tocynnau yn uniongyrchol ymhen amser – peidiwch â chysylltu â’r swyddfeydd tocynnau ar hyn o bryd.
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r perfformiadau a’r recordiadau yr ydym wedi’u rhannu arlein hyd yn hyn, a byddwn yn parhau i greu mwy o’r rhain dros y misoedd nesaf, y gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae pob un ohonom yn WNO yn edrych ymlaen at amser pan allwn eich gweld chi eto mewn theatr neu neuadd gyngerdd ac yn y cyfamser, gobeithiwn y bydd pawb ohonoch yn aros yn ddiogel ac iach.