Newyddion

Perfformiadau agoriadol pwysig St Petersburg

14 Rhagfyr 2020

Ystyrir St Petersburg yn haeddiannol fel prifddinas ddiwylliannol Rwsia. Roedd nifer o gerddorion, arlunwyr, cantorion, awduron ac actorion enwocaf y byd yn byw a gweithio yn y ddinas rhwng yr 18fed ac 20fed ganrif. Mae Piter (fel y gelwir hi gan y bobl leol) yn dal i hudo pawb sy'n edrych ar ei hadeilweb urddasol, pigdyrau disglair a chromenni euraidd, a denu perfformwyr rhyngwladol o fri. Mae St Petersburg wedi ysbrydoli nifer o gyfansoddwyr, ac wedi cynnal gormod o berfformiadau agoriadol i'w cyfrif, felly dyma dri o'n ffefrynnau.

Agorwyd Tymor yr Hydref 2018 WNO gyda War and Peace, campwaith Prokofiev, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf ar 12 Mehefin 1946 yn Theatr Mikhailovsky, yn St Petersburg. Yn ogystal ag ymateb i glasur Tolstoy, mae'n ymateb i ddigwyddiadau nes at adref - yr Ail Ryfel Byd, neu'r 'Rhyfel Gwladgarol Mawr', chwedl y Rwsiaid. Ysgogodd ymosodiad 1941 ymatebion artistig tanbaid, gan gynnwys The Passenger gan Weinberg a Leningrad Symphony Shostakovich.

Yn dilyn ymfudiad cyfansoddwyr Rwsiaidd enwog megis Igor Stravinksy, Prokofiev a Nikolai Medtner, seren newydd cerddoriaeth sofietaidd, heb amheuaeth, oedd Shostakovich. Ganwyd Dimitri Shostakovich ar 25 Medi 1906 yn St Petersburg, prifddinas yr Ymerodraeth Rwsiaidd ar y pryd. Yn ystod ei fagwraeth gwelwyd newidiadau sylweddol yn y ddinas, ac fe adlewyrchwyd hyn wrth i'r ddinas newid ei henw ddwywaith o fewn degawd. Aeth Shostakovich i’r ysgol yn St Petersburg, roedd yn fyfyriwr mewn ysgol gerdd yn Petrograd ac yn byw yn Leningrad nes cychwyn yr Ail Ryfel Byd.

Perfformiwyd Symffoni Rhif 10 mewn E leiaf Shostakovich am y tro cyntaf gan y Leningrad Philharmonic Orchestra dan arweiniad Yevgeny Mravinsky ar 17 Rhagfyr 1953, yn dilyn marwolaeth Joseph Stalin ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Daeth nifer o berfformwyr gorau Ewrop i'r ddinas i weithio gyda'r gerddorfa enwog yn ei neuadd odidog. Mae St Petersburg Philharmonia dros ddau gant oed. Mae ei hanes yn dyddio'n ôl i 1802, pan sefydlwyd Cymdeithas Ffilharmonig St Petersburg, y gyntaf yn Ewrop.

Mae Theatr Mariinsky wedi chwarae rôl allweddol ym myd bale ac opera Rwsia ers iddi gael ei hadeiladu yn 1859, a hyd heddiw, mae'n un o'r sefydliadau diwylliannol sy'n cael ei barchu a'i edmygu fwyaf yn Rwsia. Perfformiwyd The Nutcracker gan Tchaikovsky am y tro cyntaf yn Theatr Mariinsky ar 18 Rhagfyr 1892, mewn bil ddwbl gyda'i opera un act, Iolanta. Cychwynnodd Tchaikovsky ysgrifennu bale ym mis Chwefror 1891, a pharhau â'i ymdrechion ar daith o amgylch America yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Ar ei ffordd adref, ymwelodd â Pharis, lle ddysgodd am offeryn newydd - y selesta. Adnabyddodd y cyfansoddwr 'lais' ei Sugar Plum Fairy ar ei union, ac ysgrifennodd at ei gyhoeddwr, yn mynnu cael gafael ar yr offeryn ar gyfer y perfformiad.

The Nutcracker
yw'r bale a berfformir fwyaf aml yn fyd-eang. Mae wedi gwasanaethu fel cyflwyniad i gerddoriaeth glasurol i nifer o bobl ifanc, a chaiff y bale ei chysylltu â'r Nadolig yn yr un modd a mins peis, coed pinwydd a charolau. Ymgollwch eich hunan mewn byd hudolus o deganau, plu eira a melysion, yn sŵn sgôr 'diamdlawd a pherffaith' Tchaikovsky, fel y'i gelwir gan Alastair Macaulay, critig bale blaenllaw.