Tosca yw un o’r operâu mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd, yn yr un cwch â chlasuron fel Carmen, The Magic Flute a La traviata. Mae miloedd o berfformiadau wedi bod ers ei pherfformiad cyntaf yn Rhufain yn 1900, gyda syniadau di-ri ynghylch sut i’w llwyfannu mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Felly, mae ymgymryd â’r opera yn hon yn dipyn o gamp. Fodd bynnag, rydym yn credu bod y Cyfarwyddwr Edward Dick, ynghyd â’i dîm creadigol talentog, wedi rhagori ar y dasg! Darllenwch ragor yma i ddysgu’r cwbl ynghylch sut ddewison nhw lwyfannu Tosca.

Wrth ddychmygu’r set, fe ysbrydolwyd Edward a’r Dylunydd Set, Tom Scutt, yn fawr gan y Pantheon yn Rhufain. Mae’r deml Rufeinig adnabyddus hon yn drawiadol yn weledol ac yn bensaernïol, a gallwch weld adlewyrchiadau clir o hyn yn y gromen aur sy’n ganolbwynt amlwg. Wedi ei gwneud yn bennaf o ddur, mae’r gromen hon yn enfawr, gyda diamedr o 6.4 medr ac yn pwyso 1,100 cilogram. Mae hi’n brydferth iawn hefyd, yn cynnwys ffresgo prydferth o Mair Magdalen, sydd yn cael ei baentio gan Cavaradossi yn ystod y perfformiad yn ôl bob sôn. Ac fel yr oculus sydd gan y Pantheon, mae gan y gromen dwll fawr yn ei chanol, a ddefnyddir ar gyfer dibenion ac effeithiau gwahanol. Ar brydiau, mae pelydryn o olau yn disgleirio drwyddo, gan oleuo’r tywyllwch, creu awyrgylch cadarn ac adlewyrchu drama’r plot.

Mae’r goleuadau, a ddyluniwyd gan Lee Curan, wrth wraidd y cynhyrchiad hwn o Tosca. Diffinnir y man fel eglwys yn ôl y canhwyllau a oleuir drwy gydol y perfformiad gan was allor, ac mae goleuadau aur disglair yn rhoi naws ffilm hynafol Hollywood. Defnyddir y goleuadau hefyd i efelychu golau haul, ac ar brydiau mae’n hynod brydferth. Mae’r gwisgoedd, yn llawn steil, yn arbennig gŵn trawiadol Tosca yn Rhan Dau. Wedi’u dylunio gan yr enillydd gwobr BAFTA, Fotini Dimou, mae’r rhain yn steil yr 1950au gydag ychwanegiadau cyfoes, gan greu amwys penodol o ran cyfnod amser y cynhyrchiad. Pwysleisir hyn ymhellach gan y propiau, wrth i dechnoleg fodern, gan gynnwys gliniaduron, ffonau symudol a chlustffonau, ymddangos.

Darllenwch yr hyn sydd gan Edward i’w ddweud am ei ddull o gyflwyno Tosca:
‘Pan fyddwch yn meddwl am opera byddwch yn meddwl am Tosca. Mae’n un o’r darnau mwyaf operatig yn y repertoire, sgôr amrywiol anhygoel lle mae gwleidyddiaeth, rhyw a chrefydd yn gwrthdaro. Mae cerddoriaeth Puccini yn llifo emosiwn i mewn i’r gynulleidfa, a’n bwriad oedd creu cynhyrchiad sydd yr un mor ddramatig ac emosiynol â’r sgôr, opera gyffrous wleidyddol dybryd sy’n syfrdanu’r gynulleidfa’n llwyr ac sydd â llawer i’w ddweud am y byd yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen yn fawr at ailymweld â’r cynhyrchiad hwn gydag WNO. Un o’r pethau yr wyf yn fwyaf balch ohono yw sut mae’n cysylltu’n uniongyrchol â chynulleidfaoedd sy’n newydd i opera. Os ydych chi’n mwynhau antur gyffrous, byddwch wrth eich bodd.’
Bydd Tosca yn cyrraedd Caerdydd ym mis Medi, cyn mynd ymlaen i Southampton, Llandudno a Bryste. Archebwch nawr tra mae cyfle i wneud hynny!