Newyddion

Cymeriadau benywaidd cryf mewn opera

8 Mawrth 2022

Er gwaethaf y gred gyffredinol bod operâu'n llawn arwresau trasig a merched wedi'u llethu gan ddynion, mae rhai cyfansoddwyr hefyd yn creu cymeriadau benywaidd cryf. I gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, byddwn yn edrych ar rai o'r merched hynny sy'n mynnu rheoli eu dyfodol eu hunain, ac sy'n llwyddo i chwalu'r rhagfarn i ryw raddau.

O Hélène yn Les vêpres siciliennes, i ddehongliad Verdi o'r cymeriad penderfynol gan Shakespeare, Lady Macbeth (er ei bod fymryn yn wallgof), mae Verdi yn sicr yn cydnabod y cryfder sydd gan ferched a'u bod nhw'n gallu rhoi dau chwech am swllt. Mae Hélène yn ysu am ddial am farwolaeth ei brawd. Mae'n cymryd yr awenau dros y sefyllfa ac yn defnyddio ei chariad tuag at Henri a'r rebel Procida i gyflawni'r dial hwn. Lady Macbeth yw'r grym sydd wrth wraidd awch trancedig ei gŵr am bŵer. Ond nid Verdi yw'r unig gyfansoddwr i roi pŵer yn nwylo'r merched. 

Yn Don Giovannigan Mozart, er y gellir eu hystyried fel 'dioddefwyr', mae gan y cymeriadau benywaidd benderfynoldeb - megis Donna Anna, sy'n ceisio dial am farwolaeth ei thad. Zerlina, sy'n awgrymu ei bod awydd carwriaeth funud olaf cyn setlo. Neu Donna Elvira, sy'n dod o hyd i Don Giovanni, ac yn cymryd arni ei hun i rybuddio eraill am ei ymddygiad, gan sicrhau nad oes neb arall yn dioddef yr un ffawd â'i thad.

Mae Tatyana o Eugene Onegin gan Tchaikovsky yn ferch arall sy'n gwrthod gadael i ddifaterwch un dyn ei diffinio hi, ac mae'n dyrchafu ei hun i haenau uchaf cymdeithas, er i hynny ddigwydd am iddi briodi tywysog. Nid priodas o gariad yw hon. Mae'n gweld popeth yn ddu a gwyn ac yn ei dderbyn. Mae'n mwynhau ei bywyd ac nid yw am chwalu popeth oherwydd mympwy dyn, hyd yn oes os mai Onegin yw hwnnw. Er iddi fod yn rhamantydd, mwynhau ei chwmni ei hun, darllen neu gerdded am filltiroedd, mae amser yn profi ei bod yn ferch ddoeth, aeddfed a hyderus sy'n gyfrifol am ei bywyd ei hun.

Yn Fidelio, Beethoven, Leonore yw'r 'arwr'. Mae hi'n ffugio bod yn swyddog mewn carchar i ddynion er mwyn deall beth a ddigwyddodd i'w gŵr, Florestan. Mae'n dod wyneb yn wyneb â Don Pizarro, y dyhiryn gormesol, ac yn ei ladd mewn union bryd cyn iddo ladd ei gŵr. Mae'n achub ei gŵr, a sawl un arall sydd wedi dioddef yng ngofal Pizarro.

Mae cymeriad Bizet, Carmen, yn byw bywyd yn ôl ei rheolau ei hun. Mae'n mwynhau popeth mae bywyd yn ei gynnig iddi er gwaethaf y farn sydd gan bobl ohoni, a'r enw drwg sy'n dod law yn llaw â hynny. Mae hi'n dewis gyda phwy, a sut mae'n treulio ei hamser Nid yw'n ofn bod ar ei phen ei hun, waeth beth yw'r goblygiadau - pam ddylai dynion gael yr hwyl i gyd? Mae Musetta o La bohème, Puccini, yn gymeriad cyffelyb arall. Mae hi'n damaid o'r un brethyn ac nid yw'n gadael i ddyn ddweud wrthi beth i'w wneud. I'r gwrthwyneb, mae'n defnyddio dynion er ei budd ei hun, boed hynny am gariad neu bethau materol.

A ellir cynnwys Emilia o The Makropulos Affair, Janáček, yn y rhestr hon o gymeriadau benywaidd cryf?  Gellir gwneud achos ar ei rhan yn sicr: mae'r blynyddoedd yn mynd heibio un ar ôl y llall - fel y dynion yn ei bywyd, ond mae'n ymdopi a symud ymlaen bob amser, gan ofalu am ei hun pan mae un 'bywyd' yn dod i ben a'r llall megis dechrau. Felly efallai bod y cryfder hwn yn datblygu o orfodaeth yn hytrach na chymeriad, ond pwy arall all oresgyn y degawdau hynny o farwolaethau ac ymadawiadau? Cewch benderfynu hynny pan fyddwn yn perfformio ein cynhyrchiad newydd yn ystod Tymor yr Hydref 2022.