Mae dydd Gwener y 13eg wedi cyrraedd, ac mae Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych ar rai o’r straeon ac ofergoelion sydd wedi’u hymgorffori mewn Opera a’r byd theatr. Mae’r arferion ofergoelus hyn wedi cael eu defnyddio fel storiau mewn opera ac mewn defodau cyn perfformio y tu cefn i’r llwyfan hefyd, ac ymhlith perfformwyr.
Un o’r arferion mwyaf cyffredin mewn Opera yw clywed y cyfarchiad ‘Toi Toi Toi’ sy’n debyg i’r cyfarchiad theatr sy’n ofergoel ‘Break a leg’, sy’n dymuno llwyddiant i’r artist yn ei berfformiad. Mae hen chwedlau eraill yn dyddio’n ôl rhai canrifoedd, ac maent yn gyffredin yn hytrach nag eithriadol. Dywedir ei bod yn anlwcus gweld yr arweinydd, neu hyd yn oed siarad â’r cyfarwyddwr ar ddiwrnod y perfformiad.
Mae rhai ffynonellau’n honni bod mwy o ofergoelion yn gysylltiedig â pherfformio, megis peidio â gwisgo dillad porffor i opera Eidalaidd oherwydd cysylltiad y lliw ag angladdau yn yr Eidal, neu beidio â chael drychau a blodau go iawn ar y llwyfan am eu bod nhw’n symbol o lwc ddrwg, a dim chwibanu cefn llwyfan. Mae ymarferion gwael, yn ôl y sôn, yn golygu y ceir perfformiad agoriadol gwych, ac ni ddylech ddweud y gair Tosca. Byth!
Mae defodau cyn perfformio yn bodoli ymhlith cantorion a pherfformwyr, ond mae nifer o chwedlau ofergoelus yn deillio o operâu hefyd. Mae La Forza del destino, gan Guiseppe Verdi, cyfansoddwr o’r Eidal, yn enwog am ei natur reibus oherwydd y nifer o ddigwyddiadau anffodus sy’n gysylltiedig â pherfformiadau o’r opera. Yn ôl y sôn, yn 1960 disgynnodd y bariton Leonard Warren yn farw mewn perfformiad yn y Metropolitan Opera, ac yn ddiweddarach, dywedwyd mai dyma pam na fyddai Pavarotti yn perfformio’r opera, er mwyn osgoi’r anlwc hwn. Mae’r digwyddiad dychrynllyd hwn yn cael ei gofio ym myd opera hyd heddiw, a dywedir fod nifer o gynulleidfaoedd opera yn credu fod melltith yn perthyn i’r campwaith hwn gan Verdi.
Dywedir hefyd fod melltith yn bodoli ar Tosca gan Puccini, a hynny oherwydd y nifer o berfformiadau gwael sydd wedi gwneud i lawer gredu ei bod hi’n anlwcus dweud y gair yn y theatr. Mae sawl digwyddiad anffodus amlwg yn deillio o berfformiadau o Tosca, fel yn 1965, pan aeth wig Maria Callas ar dân. Er hynny, parhaodd i berfformio wrth geisio addasu ei hun ar y llwyfan er mwyn ceisio diffodd y fflamau, fel perfformiwr opera proffesiynol go iawn. Cafwyd digwyddiad tebyg yn yr 1970au, pan aeth wig Galina Vishnevskaya ar dân mewn cynhyrchiad yn Fienna a chafodd fân losgiadau i’r pen. Perfformwyr anlwcus iawn.
Gan ei bod hi’n ddydd Gwener 13, mae’n rhaid i ni grybwyll y cysylltiad anlwcus â’r dyddiad hwn yn aml. Nid yw’r byd opera a theatr yn eithriad, ac mae sawl perfformiwr yn osgoi’r rhif hwn yn llwyr wrth berfformio ar y llwyfan. Ceir un enghraifft pan gafodd Marietta Alboni, Contralto o’r Eidal, ei rhoi yn ystafell wisgo rhif 13, a dywedodd na fyddai’n derbyn yr ystafell hon o gwbl, er mai dyma’r unig un oedd ar gael. Ar ôl hynny, cafodd ei hadnabod fel difa enwog yn y byd opera. Mae WNO yn dymuno ‘Toi Toi Toi’ hapus i chi heddiw.