Roedd syniadau rhamantaidd yn dominyddu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymdrechodd nifer o gyfansoddwyr i fodloni clust awchus y cyhoedd. Yn eu plith roedd Giuseppe Verdi (1813-1901), a oedd yn byw yng ngogledd yr Eidal. Er iddo ysgrifennu fersiwn o'r Requiem Mass, pedwarawd llinynnol a nifer o ganeuon eraill, mae Verdi'n cael ei adnabod hyd heddiw am ei operâu Eidalaidd.
Yn wahanol i nifer o gyfansoddwyr eraill y cyfnod, ni chafodd Verdi ei fagu ar aelwyd gerddorol; roedd ei dad yn rhedeg tafarn yn y dref leol, ac roedd ei fam yn gweithio fel nyddwr. Er nad oedd Verdi erioed wedi bod dan ddylanwad cerddorol sylweddol, datblygodd awydd cryf am yr agwedd honno ar ei fywyd. Yn fachgen, arddangosodd Verdi ei ddawn a'i gariad tuag at gerddoriaeth drwy chwarae'r organ yn yr eglwys ac arwain band y dref yn Busseto. Bu i un o fasnachwyr y dref ei groesawu i'w gartref, ac yn ddiweddarach, fe anfonodd Verdi i Milan i astudio, ond buan y dychwelodd i'w dref enedigol er mwyn priodi.
Chwalodd bywyd perffaith Verdi yn gyflym. Cyn dathlu ei bumed penblwydd priodas, gwynebodd Verdi trawma anferthol: trasiedi deirgwaith, colli ei ddau blentyn a'i wraig, Margherita, a methiant llwyr ei ail opera Un giorno di regno wedi hynny. Cafodd Verdi ei lethu gan iselder, ac nid oedd yn gallu canolbwyntio ar ei waith.
Yn ffodus, cafodd Verdi ei orfodi i ddarllen libreto Nabucco, yr opera a ddaeth â llwyddiant iddo, ac a ail-gynnodd ei yrfa. Ar ôl cyflawni hyn, aeth ymlaen i gwblhau 15 o operâu eraill o fewn yr 11 mlynedd ddilynol, a oedd yn cynnwys Rigoletto, Il trovatore a La traviata. Yn dilyn La traviata, a oedd yn hynod boblogaidd, arafodd gwaith cynhyrchu Verdi wrth iddo ganolbwyntio ar weithiau mwy, gan gynnwys Les vêpres siciliennes a Don Carlos ar gyfer Paris Opéra. Ar ôl Aida, gwaith enfawr a gafodd ei gomisiynu i ddathlu agoriad Tŷ Opera Cairo, ymddeolodd Verdi, i bob golwg.
Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach, llwyddodd Giulio Ricordi, cyhoeddwr Verdi, i'w hudo'n ôl i'r byd cyfansoddi drwy gynnig iddo weithio gyda'r cyfansoddwr a'r libretydd ifanc, Arrigo Boito. Cafwyd addasiad o Simon Boccanegra a dwy opera olaf, ardderchog ar ôl hynny, yn seiliedig ar waith hoff ddramodydd Verdi, Shakespeare: Otello a Falstaff.
Mae llythyrau personol Verdi yn datguddio gŵr gonest digyfaddawd. Roedd ynghlwm â phob cam o greu ei operâu, ac yn aml, roedd yn cyfansoddi cymaint o'r libreto â'r libretydd yr oedd wedi ei ddewis. Golygyddion, cyfarwyddwyr, perfformwyr, arweinwyr; nid oedd modd i neb guddio rhag uniondeb Verdi. O Les vepres siciliennes ymlaen, penderfynodd Ricordi, ei gyhoeddwr, gynhyrchu llyfrau cynhyrchu - disposizioni sceniche - a oedd yn cofnodi'n union sut i lwyfannu ei operâu.
Bu farw Verdi ym Milan yn 1901, a chafwyd gorymdaith ddifrifddwys yn dilyn ei weddillion o'u man claddu cyntaf dros dro i fan orffwys parhaol yn Casa di Riposa per Musicisti (Cartref i Gerddorion Ymddeoledig) y bu iddo ei greu ei hun, rhai blynyddoedd yn gynharach. Ymgasglodd oddeutu 300,000 o bobl ar strydoedd Milan (mwy na hanner poblogaeth y ddinas). Wrth i'r orymdaith adael y fynwent, Va, pensiero, bu i gorws o 800 o leisiau ganu'r alargan a ysgrifennodd Verdi ar gyfer mamwlad goll, 60 mlynedd yn gynharach i Nabucco, dan arweiniad Toscanini, ac wrth gyrraedd Casa di Riposa, cafodd ei groesawu â Miserere o Il trovatore.
A dyna ni, stori Verdi - Brenin alawon medrus ac effaith theatraidd.