Gall yr ofn o beidio â deall atal pobl rhag mynd i weld opera, ond chwalwyd rhwystr enfawr yn sgil y defnydd helaeth o uwchdeitlau yn yr 21ain ganrif.
Ar ddechrau'r 1900au, roedd y rhan fwyaf o gantorion yn treulio eu gyrfaoedd fel aelodau o ensemble o fewn y wlad ble roeddent yn byw. Roedd tai opera fel arfer yn perfformio yn iaith eu cynulleidfa, neu efallai mewn Eidaleg gan mai dyna’r iaith oedd yn cael ei hystyried fel iaith opera fel arfer. Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, roedd operâu poblogaidd yn y rhan fwyaf o dai opera blaenllaw ar draws y byd yn cael eu perfformio yn eu hiaith wreiddiol. Y ddadl gryfaf dros hyn yw bod gan y cyfansoddwr synau ac aceniadau’r libretto mewn golwg wrth gyfansoddi.
Cyflwynwyd uwchdeitlau – surtitles yn Saesneg - am y tro cyntaf gan Lotfi Mansouri, a oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr cyffredinol y Canadian Opera Company, yn eu cynhyrchiad o Elektra Strauss ym mis Ionawr 1983. Daw'r gair 'surtitle' o'r gair Ffrangeg ‘sur', sy'n golygu dros neu ar, a’r gair Saesneg ‘title’.
Roedd barn yr adolygwyr yn rhanedig o'r dechrau. Yn 1986 ysgrifennodd Rodney Miles - a oedd yn olygydd y cyfnodolyn Prydeinig Opera - 'Rydych chi'n mynd i'r opera i wrando ac i wylio, nid i ddarllen', tra ysgrifennodd asiant cantorion i ddweud bod uwchdeitlau yn 'bywiogi cynulleidfaoedd ac yn eu gwneud yn llawer mwy ymwybodol o'r ddrama gerddorol wrth law'.
Erbyn y flwyddyn 2000, credai John Rockwell o'r New York Times fod gwerth uwchdeitlau yn amlwg i bawb. Ysgrifennodd 'mae operâu cymhleth yn cael eu gwneud yn ddealladwy ac yn atyniadol ar unwaith i gynulleidfa eang.' Erbyn 2002, aeth cwmni Metropolitan Opera Efrog Newydd mor bell â gosod ei deitlau ar gefnau seddi, dull a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan nifer o dai opera, gan gynnwys y Wiener Staatsoper, lle gall pob aelod o'r gynulleidfa ddewis o ddetholiad o chwe iaith yr hoffent ddarllen eu teitlau ynddynt.
Yn fwy dadleuol oedd y defnydd o uwchdeitlau ar gyfer perfformiadau iaith lafar. Yn 2005 cyhoeddodd English National Opera ei fod yn cyflwyno uwchdeitlau mewn ymateb i alw'r cyhoedd. Er gwaethaf gwrthwynebiad llawer o staff y cwmni, dadleuwyd mai ychydig iawn o bobl oedd yn gallu clywed y geiriau'n glir mewn theatr mor fawr, waeth pa mor ofalus oedd cynaniad y cantorion.
Defnyddiwyd uwchdeitlau am y tro cyntaf gan Opera Cenedlaethol Cymru mewn cynhyrchiad o Der Rosenkavalier yn 1994, dan arweiniad Charles Mackerras. Roedd arolwg cynulleidfa o'r noson gyntaf yn y New Theatre yn gadarnhaol dros ben, felly penderfynodd y Cwmni eu defnyddio ar gyfer pob opera oedd yn cael eu canu mewn ieithoedd ar wahân i'r Saesneg. Llogwyd y setiau cyntaf o uwchdeitlau gan y Royal Opera House, ond ers hynny mae'r mwyafrif wedi cael eu cyfieithu gan gyn-Ddramaturg WNO, Simon Rees.
Erbyn heddiw mae gan Opera Cenedlaethol Cymru uwchdeitlau Saesneg ar gyfer ein holl brif berfformiadau, yn ogystal ag uwchdeitlau Cymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno. Rydym yn defnyddio rhaglen o'r enw Glypheo, a dangosir uwchdeitlau ar sgriniau uwchben y prif lwyfan, yn ogystal ag ar sgriniau ailadrodd mewn theatrau lle nad yw’n bosibl gweld y brif sgrin yn glir. Mae’r uwchdeitlau’n cael eu paratoi gan Dramaturg WNO ac yn cael eu gweithredu gan Staff Cerddoriaeth y Cwmni, sy'n eistedd mewn blwch yn y theatr, gan ddilyn sgôr wedi ei farcio, ac yn clicio drwy bob llinell o’r testun ar Glypheo.