Newyddion

The Barber of Seville - Ymateb Cynulleidfa

29 Medi 2021

Ar ddydd Iau 9 Medi, nid yn unig yr agorodd ein Tymor yr Hydref 2021 yma yng Nghaerdydd yn ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru, ond roedd y dyddiad hefyd yn nodi dychweliad WNO i’r llwyfan ac agoriad y Ganolfan ar ôl y pandemig Covid. Derbyniodd ein perfformiad cyntaf, o The Barber of Seville gan Rossini, adborth hyfryd gan y gynulleidfa, dyma beth oedd gennych i’w ddweud.

Mynegodd rhai eu barn ar Twitter:

eraill, ar Facebook:

OMB, am gynhyrchiad hyfryd o The Barber of Seville. Dyma fy nhro cyntaf yn ôl ers y Pandemig, ac am ddechrau da. Comedi sy’n gwneud ichi chwerthin yn uchel, lleisiau swynol, llwyddiant llwyr. Llongyfarchiadau i bawb 😊💖😎

Carole Peters

Roedd The Barber of Seville yn wych neithiwr  😊🎶

Val Jones

Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio’r opera hon yr wythnos ddiwethaf! Y ffordd berffaith o fwynhau ar ôl (Gobeithio) trafferth Covid. Rhai o’r enghreifftiau gorau o ganu Rossini i mi eu clywed ers tro.

Lloyd Llewellyn-Jones

Anfonodd aelodau eraill o’r gynulleidfa ebyst i rannu eu hadborth, dyma ddetholiad:

‘Amser arbennig neithiwr, yr union beth oedd ei angen arnom.’

‘Llongyfarchiadau ar wledd o gomedi penigamp… llwyddiant ysgubol. Roedd y lleisiau i gyd yn rhagorol, ac roedd y cynhyrchiad, a welais am y tro cyntaf yn Hippodrome Bryste, wedi gweithio eto, perffaith ar gyfer y byd rydym yn byw ynddo.’

‘Cefais i a fy ngwraig bleser llwyr o fod yn y gynulleidfa nos Wener ar gyfer The Barber of Seville, a’i fwynhau’n fawr. Roedd y canu a’r actio yn cyrraedd lefelau uchel arferol WNO, ac roeddwn i wir yn gwerthfawrogi’r cydbwysedd rhwng y cantorion a’r gerddorfa.’

‘gwych!!’

Bydd The Barber of Seville ar daith tan ddydd Iau 2 Rhagfyr. Gobeithiwn eich gweld yn fuan mewn lleoliad sy’n lleol i chi ac edrychwn ymlaen at eich ymatebion. Ymunwch â’r sgwrs gyda #WNObarber.